30/06/2009 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (142)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2009
Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………

14.35
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

15.00
Eitem 3: Datganiad deddfwriaethol gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: Y Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru)

………………………

15.35
Eitem 4: Dadl ar y Polisi Trawsnewid (Trawsnewid Darparwyr Addysg a Hyfforddiant)


NDM4254 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu'r patrwm sy'n dod i'r amlwg o ran darpariaeth ddysgu ôl-16, fel y nodir yn y papur "Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant: Y Patrwm ledled Cymru" ac yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Dileu "croesawu” a rhoi "nodi” yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Dileu "ac yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.


Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gweithredu’r Polisi Trawsnewid yn cynnwys darpariaeth a chefnogaeth ddigonol ar gyfer yr holl ddysgwyr ôl-16, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gweithredu’r Polisi Trawsnewid yn cydnabod yn llawn y gwahanol heriau sy’n wynebu ardaloedd trefol a gwledig wrth ddarparu addysg ôl-16.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn cydnabod bod angen cyllid cyfalaf sylweddol er mwyn gweithredu’r polisi trawsnewid.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi bod nifer o fodelau gweithredu arfaethedig yn datblygu sy’n gweddu i amgylchiadau lleol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

31

50

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4254 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu'r patrwm sy'n dod i'r amlwg o ran darpariaeth ddysgu ôl-16, fel y nodir yn y papur "Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant: Y Patrwm ledled Cymru" ac yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

16

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

………………………

16.32
Eitem 5: Dadl Cyfnod 1 ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)

NDM4253 Brian Gibbons (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru).

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Yn gresynu bod y Mesur wedi methu â mynd i’r afael yn ddigonol â holl achosion tlodi plant, gan gynnwys tlodi tanwydd, tai gwael, llwyrddibyniaeth, teuluoedd yn chwalu a diweithdra.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Yn gresynu wrth fethiant y Mesur i gydnabod y rôl arweiniol y gall y trydydd sector ei chwarae o ran mynd i’r afael ag achosion tlodi plant.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

34

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4253 Brian Gibbons (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru).

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd y cynnig.

17.22
NDM4255 Brian Gibbons (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

…………………………


17.22
Cyfnod Pleidleisio


Daeth y cyfarfod i ben am 17.27

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr