Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bumed Senedd (2016-2021)

Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad Senedd Cymru cyn y gall basio'r ddeddfwriaeth dan sylw. Rhoddir cydsyniad o'r fath gan y Senedd drwy gynigion cydsyniad deddfwriaethol.

Caiff manylion am sut y mae'r Senedd yn ymdrin â chynigion cydsyniad deddfwriaethol eu hamlinellu yn Rheol Sefydlog 29 (PDF, 2.04MB).

Mae'r Senedd wedi ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau canlynol y DU yn ystod y Bumed Senedd. Mae manylion llawn yr ystyriaethau hynny, gan gynnwys yr amserlen craffu gan y Pwyllgor Busnes a chanlyniad unrhyw waith craffu yn y Cyfarfod Llawn neu gan bwyllgorau, ar gael ar y dudalen a ganlyn ar gyfer pob Bil unigol y DU.

2021

2020

2019

2018

2017

2016