Datblygu'r Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Cyhoeddwyd 17/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/03/2021   |   Amser darllen munudau

  • Enillydd y balot: Darren Millar AC, Bill 050: Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth cyn y balot yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

​Prif Gerrig Milltir Manylion
Dyddiad y Ballot 24 Ebrill 2013
Y ddadl y cytunodd y Cynulliad ynddi y câi enillydd y Balot gyflwyno Bil, gan arwain at roi gwybodaeth cyn y balot 19 Mehefin 2013
Ymgynghoriadau i lywio'r modd y mae'r Aelod yn datblygu'r Bil Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) - daeth i ben mis Medi 2013
Ymgynghoriad ar y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru) drafft - daeth i ben ym mis Ionawr 2014

Dyddiad cyflwyno'r Bil yn ffurfiol 17 Mawrth 2014
Gwybodaeth am hynt ddeddfwriaethol y Bil wedi'i gyflwyno Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)