Deddfwriaeth - Y Bumed Senedd (2016-2021)

Cyhoeddwyd 06/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Deddfau'r Senedd

Mae'r Deddfau Senedd Cymru a ganlyn wedi cael Cydsyniad Brenhinol yn ystod y Pumed Senedd (o fis Mai 2016 ymlaen)

Ar ôl i’r Senedd ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf Senedd Cymru’. Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).

Deddfau'r Senedd a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru

Deddfau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru

Deddfau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Bwyllgorau'r Cynulliad

Deddfau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Cynulliad

Biliau a dynnwyd yn ôl

Gwrthodwyd y Biliau a ganlyn gan y Pumed Senedd ac ni chynhelir unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r Biliau hyn.

Biliau a wrthodwyd

Gwrthodwyd y Biliau a ganlyn gan y Pumed Senedd ac ni chynhelir unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r Biliau hyn.

Is-ddeddfwriaeth​

Ni ellir gwneud is-ddeddfwriaeth oni bai fod deddfwriaeth sylfaenol yn rhoi'r pŵer i wneud hynny. Gelwir y ddeddfwriaeth sylfaenol yn ddeddf alluogi, gan ei bod yn galluogi'r is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud. Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfau galluogi fel Deddfau gan Senedd Cymru, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth ddirprwyedig hefyd, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd hefydd.

Er enghraifft, o dan adran 33(3) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, "Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a'r amodau eraill sydd i'w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd."

Yn yr enghraifft hon, y ddeddf galluogi yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac mae adran 33(3) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (ar ffurf rheoliadau) ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol. Heb y pŵer galluogi hwnnw, ni allai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth ynghylch cymwysterau arolygwyr gofal cymdeithasol.

Yng Nghymru, offerynnau statudol Cymru yw'r math mwyaf cyffredin o is-ddeddfwriaeth. Fel arfer, maent yn rheoliadau neu'n orchmynion. Mae codau ymarfer, cynlluniau a chanllawiau yn fathau eraill o is-ddeddfwriaeth.

Offerynnau Statudol

Mae is-ddeddfwriaeth ar ffurf offeryn statudol yn golygu y bydd y rheolau a nodir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i'r is-ddeddfwriaeth.

Mewn perthynas ag offerynnau statudol, rôl y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yw ystyried a chyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r meini prawf a nodir yn y Rheolau Sefydlog canlynol:

  • Rheol Sefydlog 21.2 – er enghraifft, materion a allai godi amheuaeth ynghylch cyfreithlondeb offeryn statudol neu a yw offeryn statudol wedi'i lunio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n rhaid i'r Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn. Yr enw ar faterion y cyflwynir adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 yw pwyntiau adrodd technegol.
  • Rheol Sefydlog 21.3 – er enghraifft, materion sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd, fel offeryn statudol nad yw'n gweithredu polisi yn y ffordd a nodwyd neu offeryn statudol yr ystyrir ei fod yn wleidyddol gynhennus neu'n arwyddocaol. Caiff y Pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar y materion hyn. Yr enw ar faterion y cyflwynir adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 yw pwyntiau adrodd o ran rhinweddau.

Os yw'r Pwyllgor yn fodlon ar offeryn statudol, cyfeirir ato fel un sydd ag adroddiad clir. Fel arall, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad yn unol â Rheol Sefydlog 21.2 neu Reol Sefydlog 21.3, neu'r ddwy reol, os nad yw'n fodlon ar offeryn statudol. Mae adroddiadau o'r fath yn rhoi gwybod i'r Senedd am unrhyw faterion sy'n codi mewn perthynas ag offerynnau statudol; nid yw adroddiadau'r Pwyllgor yn gyfystyr ag unrhyw fath o feto o ran offerynnau statudol. O dan Reol Sefydlog 21.4, mae'n rhaid i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad o fewn 20 diwrnod i offeryn statudol gael ei osod gerbron y Senedd.

Ymrin ag offerynnau statudol o dan Reol Sefydlog 21.2 a Rheol Sefydlog 21.3 – 25 Mawrth 2020 i 17 Ebrill 2020

O dan adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, os na chaiff offeryn statudol gweithdrefn negyddol a wnaed gan Weinidogion Cymru ei osod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn statudol ddod i rym (h.y. cael effaith), mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Llywydd ac esbonio pam mae'r "rheol 21 diwrnod" wedi'i thorri.

Mae'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i waith y Senedd wrth ystyried offerynnau statudol wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 27 (ond noder Rheol Sefydlog 27.14 sy'n cymhwyso Rheol Sefydlog 27 i is-ddeddfwriaeth nad yw ar ffurf offeryn statudol).

Mae unrhyw ohebiaeth arall sy'n ymwneud â Biliau; Is-ddeddfwriaeth; Offerynnau Statudol y mae angen Cydsyniad arnynt; Datganiadau Ysgrifenedig a wneir o dan Reol Sefydlog 30C; a Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gael ar y dudalen berthnasol sy'n ymwneud â'r eitem benodol o ddeddfwriaeth.

Gweithdrefnau

Offerynnau Statudol a osodwyd ond na chraffwyd arnynt yn ffurfiol gan y Pwyllgor

Rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 y bydd angen eu sifftio
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth bresennol.

Mae paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 yn darparu ar gyfer pennu pwyllgor yn y Senedd i sifftio rhai rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol a elwir yn “rheoliadau negyddol arfaethedig”. Yna bydd y Pwyllgor sifftio yn ystyried y weithdrefn briodol i'w dilyn, naill ai negyddol neu gadarnhaol.

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol
Ar ôl i Weinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, mae'r weithdrefn negyddol yn darparu bod yn rhaid iddynt osod yr is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 diwrnod i wrthwynebu'r is-ddeddfwriaeth. Os na fydd y Senedd yn gwrthwynebu, bydd yr is-ddeddfwriaeth yn parhau i gael effaith (mae'n 'parhau' i gael effaith oherwydd y bydd yr is-ddeddfwriaeth wedi dod i rym yn awtomatig cyn gynted ag y cafodd ei rhyddhau i'r cyhoedd). Os bydd y Senedd yn gwrthwynebu, caiff yr is-ddeddfwriaeth ei dirymu ac ni fydd dim byd arall y gellir ei wneud o dan yr is-ddeddfwriaeth. Mae'r rhan fwyaf o'r is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn y weithdrefn hon.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd
Weithiau, bydd y ddeddf alluogi yn dweud bod yn rhaid i is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud ar y cyd, gyda Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i'r fath hon o is-ddeddfwriaeth gael ei gosod gerbron Senedd Cymru a Senedd y DU. Bydd y ddeddf alluogi yn nodi pa weithdrefn sy'n berthnasol.

Torri'r rheol 21 diwrnod
Rhaid gosod darn o is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn iddi ddod yn weithredol. Os bydd y rheol hon yn cael ei thorri, rhaid i Lywodraeth Cymru hysbysu'r Llywydd o'r rhesymau dros hynny.

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol
Mae'r weithdrefn gadarnhaol yn darparu na all Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth oni fydd y Senedd wedi gwneud penderfyniad i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth. Felly, mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd ar ffurf drafft, ac ni fydd yn dod i rym oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r drafft. Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth mwy arwyddocaol.

Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau eraill (Gan gynnwys y weithdrefn "gwneud cadarnhaol")
Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth yn destun gweithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys: (i) gweithdrefnau uwchgadarnhaol, er enghraifft y drefn a nodir yn adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011; (ii) y weithdrefn gadarnhaol dros dro neu'r weithdrefn gwneud cadarnhaol er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 25(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017; a (iii) y weithdrefn drafft negyddol, er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adrannau 144ZF(5) i (7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Is-ddeddfwriaeth sy'n dilyn gweithdrefnau arbennig y Senedd
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth yn dilyn gweithdrefn arbennig y Senedd, sy'n golygu nad oes modd i Weinidogion Cymru eu gwneud na'u cadarnhau nes bod y gweithdrefnau a nodir yn Rheol Sefydlog 28 wedi cael eu bodloni.

Is-ddeddfwriaeth nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol oni bai fod yn rhaid iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad oes angen eu gosod gerbron y Senedd hyd yn oed. Er enghraifft, nid yw gorchmynion cychwyn (h.y. is-ddeddfwriaeth sy'n pennu dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym) fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol ac nid oes angen eu gosod gerbron y Senedd. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am orchmynion cychwyn, ond ni fydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fel arfer.

Is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymadawiad y DU â'r UE yn amlygu'r newidiadau y mae angen eu gwneud
Mae’r offerynnau hyn yn ymwneud mewn ryw ffordd â chyfraith y DU. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* yn adrodd i’r Senedd ar wahân ar yr offerynnau hyn, gan amlygu materion a allai fod â goblygiadau yn deillio o’r DU yn gadael yr UE er gwybodaeth yn unig ac i helpu i ddeall sut y gallai fod angen newid cyfraith o’r fath yn y dyfodol.

Is-ddeddfwriaeth - gorchmynion cychwyn
Mae rhai darnau o is-ddeddfwriaeth nad oes angen eu gosod gerbron y Senedd. Er enghraifft, nid yw gorchmynion cychwyn (h.y. is-ddeddfwriaeth sy'n pennu dyddiad pan ddaw deddfwriaeth sylfaenol i rym) fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn ffurfiol ac nid oes angen eu gosod gerbron y Senedd. Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am orchmynion cychwyn, ond ni fydd y Pwyllgor yn craffu arnynt fel arfer.

Is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'w Mawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf 2006, ar yr amod bod drafft o'r Gorchymyn wedi cael ei gymeradwyo yn gyntaf gan Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU.
Mae Rheol Sefydlog 25 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn mewn perthynas â thrafod Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor sydd i'w gwneud o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn rhy hwyr yn y Pedwerydd Cynulliad i'r Pwyllgor graffu arni
Gosodwyd y ddeddfwriaeth a ganlyn gerbron y Senedd yn rhy hwyr i ganiatáu iddi gael ei hystyried gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad.

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.