Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Y Gwir Anrh. yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Llywydd
Dyddiad cyflwyno: 9 Tachwedd 2009
Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 21Gorffennaf 2010
Mae’r Mesur hwn yn sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd darpariaethau’r Mesur hwn yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Panel Adolygu Annibynnol ar Gyflog a Lwfansau Aelodau'r Cynulliad, a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2009, i greu Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol fel y Corff Adolygu Annibynnol statudol i bennu ac adolygu cyflogau, lwfansau a threfniadau pensiwn Aelodau’r Cynulliad a deiliaid swyddi eraill.
Penodwyd y Cadeirydd, y Gwir Anrh. George Reid, ynghyd ag Aelodau eraill y Bwrdd Taliadau ar 22 Medi 2010 a chyhoeddodd ei adroddiad cyntaf ym mis Mawrth 2011, gan bennu cyflogau Aelodau’r Cynulliad am ym pedair blynedd nesaf.
Mesur fel y'i cyflwynwyd – 9 Tachwedd 2009
Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad
Ar 13 Hydref 2009, cytunodd y Pwyllgor Busnes, Yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 er mwyn iddo ystyried a chyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig.
Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 arfaethedig – 08 Mawrth 2010
Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1
Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mai 2010
Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)
chevron_right