r Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Elin Jones AC - Y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Dyddiad cyflwyno: 19 Hydref 2009
Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 11 Mai 2010
Mae’r Mesur yn diddymu’r angen am gorff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad i reoli datblygiad ac i hybu’r diwydiant cig coch yng Nghymru, a bydd yn gwneud Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol atebol am y diwydiant.
Mae hefyd yn cyflwyno cytundeb dirprwo newydd rhwng Gweinidogion Cymru a Hybu Cig Cymru er mwyn darparu fframwaith hyblyg y byddai modd iddo gefnogi dulliau amgen ar gyfer penderfynu ar yr ardoll cig coch ac ar y dulliau o’i chasglu.
Mesur fel y'i cyflwynwyd – 19 Hydref 2009
Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad
Ar 20 Hydref 2009, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 er mwyn iddo ystyried a chyflwyno adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig.
Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Adroddiad Cyfnod 1 ar y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3– 10 Rhagfyr 2009
Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3
Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mawrth 2010
Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)
chevron_right