Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Cyhoeddwyd 19/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2022   |   Amser darllen munudau

Yr Aelod sy’n gyfrifol am y Mesur: Brian Gibbons AC - Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Dyddiad cyflwyno: 2 Mawrth 2009

Dyddiad y Gymeradwyaeth Frenhinol: 10 Chwefror 2010


Mae’r Mesur yn cynnwys nifer o ddarpariaethau statudol i fynd ati i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru o ran tlodi plant. Yn benodol, gwnaiff y Mesur y darpariaethau a ganlyn sy’n ceisio darparu mwy o gymorth i deuluoedd sydd, o bosibl, â phlant mewn perygl:

  • Gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth ar gyfer cyfrannu tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru;

  • Cyflwyno gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd i gyfnerthu’r gefnogaeth sydd ar gael i blant agored i niwed a’u teuluoedd drwy ad-drefnu gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i dargedu’n well ac a gyflwynir gan dimau aml-ddisgyblaethol proffesiynol er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer plant ac oedolion fel bod modd iddynt fyw gyda’I gilydd yn ddiogel fel uned deuluol; a

  • Gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn benodol Erthygl 31.1 ac Erthygl 31.2 mewn cysylltiad â chwarae.

 

Mesur fel y'i cyflwynwyd – 02 Mawrth 2009

Memorandwm Esboniadol yn y Cyflwyniad

Ar 3 Mawrth 2009, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog, i gyfeirio’r Mesur at Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2, i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur arfaethedig ac i baratoi adroddiad arno.

Ystyriaeth Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3

Adroddiad Cyfnod 1 ar y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 arfaethedig – 19 Mehefin 2009

Ystyriaeth Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2

Cynhaliwyd Ystyriaeth Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd 2009

Mesur fel y’i deddfwyd (legislation.gov.uk)

 

Chwilio am ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â’r Mesur hwn