Lansiwyd Cawcws Menywod y Senedd ar 7 Mehefin 2023 mewn digwyddiad yn y Senedd.

Edrychodd y digwyddiad ar rôl seneddau o ran llywio cydraddoldeb rhywiol mewn cymdeithas, profiadau seneddwyr benywaidd, a sut mae dinasyddion benywaidd yn ymgysylltu â gwaith seneddau.

Bu’r Seneddwr Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon, yn traddodi prif araith y dydd ac yn rhannu ei phrofiadau o Gawcws Seneddol Menywod Iwerddon.

Mwy o wybodaeth

Manylion Cyswllt

Cysylltwch â Chawcws Menywod y Senedd

Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: llywydd@senedd.wales

Cadeirydd: Joyce Watson AS

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Newyddion y Senedd.