Cwestiynau Brys - Hen - Y Bumed Senedd

Cyhoeddwyd 04/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/04/2021   |   Amser darllen munudau

Cyn mis Mai 2017, gallai'r Aelodau wneud cais i ofyn Cwestiwn Brys yn y Cyfarfod Llawn, ond dim ond os byddai'r Llywydd (neu'r Dirprwy Lywydd mewn cysylltiad â Chwestiwn i'r Comisiwn) yn fodlon bod y cwestiwn o bwysigrwydd cyhoeddus brys. Daeth y weithdrefn hon i ben ym mis Mai 2017 pan gyflwynwyd trefn newydd ar gyfer Cwestiynau Brys a slot wythnosol bob dydd Mercher yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer Cwestiynau Amserol​.

 

Dyddiad cyflwyno Cwestiwn brys Penderfyniad

​5 Ebrill

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Darren Millar (Clwyd West): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg, a gyhoeddwyd heddiw, ac a ganfu bod dros draean o athrawon ysgol yng Nghymru yn bwriadu gad​​ael y proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​4 Ebrill

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn dilyn cyhoeddi'r posibilrwydd o golli swyddi ac uno safleoedd?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​4 Ebrill

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa sylwadau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch y cais am loches a wrthodwyd mewn cysylltiad â'r teulu Rebwah o Irac, sydd bellach yn byw yn Abertawe?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​29 March

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​29 March

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn ei phenderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2017.

​28 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017

​28 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni? ​

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017

​22 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch y broses benodi ar gyfer Esgob Llandaf, yn sgil adroddiadau na chafodd ymgeisydd ei ddethol ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​22 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal yn sgil cynlluniau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​22 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot?

​​​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mawrth 2017

​21 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Jeremy Miles (Castell-nedd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio proffylacsis cyn-gysylltiol, yn dilyn adolygiad o dystiolaeth a ryddhawyd heddiw gan Grŵp Arbenigol HIV Iechyd Cyhoeddus Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​15 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​15 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn a ddatgelwyd yn ddiweddar ynghylch Chwaraeon Cymru yn dilyn adroddiad a ryddhawyd yn answyddogol gan Deloitte a oedd yn tynnu sylw at bryderon difrifol ynghylch y ffordd y dyfarnodd y sefydliad gontractau i gwmnïau fel Unforgiving Minute a Beaufort Research?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​14 Mawrth

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gynnal refferendwm ar annibynniaeth i Gymru yn sgil ail refferendwm arfaethedig ar annibynniaeth i'r Alban?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​14 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ar effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​14 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn y farn amodol a roddwyd arnynt gan Archwilydd Cyffredinol Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​14 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus?

​​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017

​14 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd?

​​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017

​14 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC?

​​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017

14 Mawrth​

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu?

​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth 2017.

​8 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Neil Hamilton (Mid and West Wales): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu'r £200 milin ychwanegol i grant bloc Cymru a amlinellir yng nghyllideb Llywodraeth y DU?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​8 Mawrth

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (South Wales Central): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal yn sgil cau canolfan forgeisi Barclays yn Llanisien, gan arwain at golli 180 o swyddi?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​8 Mawrth

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch statws Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad o Adael) o gofio bod pleidlais ddoe yn Nhŷ'r Arglwyddi yn mynd yn groes i'r farn a fynegwyd gan bobl Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y diffyg adnoddau addysgu dwyieithog a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar addysg Gymraeg? 

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ddatganiad am benderfyniad Newsquest i gau'r ganolfan gynhyrchu yng Nghasnewydd?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU yn dilyn y newyddion bod bargen Dinas-ranbarth Bae Caerdydd yn barod i'w llofnodi yr wythnos hon?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Hannah Blythyn (Delyn): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2017.

​1 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwaith Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, oherwydd y dyfalu diweddar ynghylch colli swyddi?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch honiadau sydd wedi'u gwneud heddiw gan yr Undeb UNITE y bydd 1,160 o swyddi yng ngwaith adeiladu peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu colli erbyn 2021?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Mawrth

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerwyd heddiw gan yr undeb UNITE yng ngwaith adeiladu peiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a goblygiadau hyn o ran parhad buddsoddiad Ford?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Mawrth

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiadau bod Ford yn bwriadu cael gwared â dros 1,000 o swyddi o'i waith adeiladu peiriannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2017.

​28 Chwefror

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am farwolaeth drasig merch bum mlwydd oed o Gasnewydd oedd ag asthma, wedi i'w meddyg teulu wrthod ei gweld am ei bod  wedi cyrraedd ei hapwyntiad ychydig funudau yn hwyr?

​Ni chafodd ei ganiatau.

​28 Chwefror

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau Llywodraeth Cymru, sy'n dangos bod un practis meddygon teulu yn cau bob mis ar gyfartaledd yng Nghymru?

​Ni chafodd ei ganiatau.

​28 Chwefror

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Montgomeryshire): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad brys yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod Hedfan Sifil i gadw'r awyren sy'n hedfan rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ar y ddaear am resymau diogelwch?

​Ni chafodd ei ganiatau.

​28 Chwefror

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cyhoeddiad y bydd 60 o swyddi Gyrfa Cymru yn cael eu colli?

​Ni chafodd ei ganiatau.

​15 Chwefror 2017

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

David Rees (Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi'u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel?

​​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Chwefror 2017

​14 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2017.

​8 Chwefror 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw, bellach, yn bwriadu cefnogi datblygu Cylchffordd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod yr Heads of the Valleys Development Company wedi sicrhau'r cyllid preifat sydd ei angen ar gyfer ei adeiladu?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Chwefror 2017.

 

​8 Chwefror 2017

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn pleidlais Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn nadl Llywodraeth Cymru ddoed, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad i gadarnhau ei bod yn parhau i fod yn bolisi Llywodraeth Cymru i weithredu ar ddymuniadau pobl Cymru fel y'u mynegwyd yn y refferendwm ar 23 Mehefin a chefnogi tanio Erthygl 50?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Chwerfor 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 2017201720172017

​7 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 201720172017

​7 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Yn sgil y newyddion bod Cyngor Gwynedd am roi'r gorau i ariannu Amgueddfa Lloyd George, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi dyfodol hirdymor yr amgueddfa?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiogelwch cynllun Rhentu Doeth Cymru, yn dilyn methiannau diogelu data yng Nghyngor Caerdydd, a arweiniodd at ryddhau manylion cannoedd o landlordiaid?

Ni chafodd ei ganiatáu.​

​7 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gau tair o ysgolion Caerdydd yn rhannol, sef Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Willows a Choleg Michaelston?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​7 Chwefror 2017.

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ymateb i dystiolaeth a gyflwynwyd gan Public Affairs Cymru i'r Pwyllgor Safonau a oedd yn nodi bod dros hanner ei aelodau wedi cael cais i ailystyried safbwyntiiau neu i beidio â dweud rhai pethau pan nad yw Llywodraeth Cymru yn cytuno?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Chwefror 2017.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol Celfyddydau Busnes Cymru yn sgil y newyddion bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi tynnu ei gefnogaeth i'r elusen yn ôl? 

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Chwefror 2017.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru?  

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawr ar 1 Chwefror 2017.

​31 Ionawr 2017

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gau Uned Mân Anafiadau Llandrindod dros nos am gyfnod dros dro? 

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​31 Ionawr 2017

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol?
 
 
Sian Gwenllian (Arfon): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglyn â gwrthwynebu agwedd wahaniaethol a hiliol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn erbyn ffoaduriaid Mwslemaidd

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017

​31 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal prif weithredwr bwrdd y cynghorau iechyd cymuned o'i waith, yn sgil adroddiadau y cafodd ei atal o'i waith ar gyflog llawn bron i flwyddyn yn ôl?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​31 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi?
 
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Lee Waters (Llanelli): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi, yn sgil cau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr 2017

​25 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith ar wasanaethau iechyd a gaiff streic y staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​24 Ionawr 2017

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

David Rees (Aberafan): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gamau diweddar Llywodraeth Cymru mewn perthynas â thynnu cyllid oddi ar raglenni Cymunedau yn Gyntaf a Chymunedau dros Waith yn NSA Afan?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​24 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yng ngoleuni ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oedd yn dangos bod nifer y menywod rhwng 25 a 64 oed a gaiff brawf sgrinio serfigol ar ei isaf ers 10 mlynedd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y gostyngiad hwn?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​18 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reoleiddio gorsaf bŵer Aberddawan, yn dilyn penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop ym mis Medi 2016 bod allyriadau'r gwaith hwn yn uwch na'r cyfyngiadau ar gyfer llygredd aer?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​17 Ionawr 2017

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwr GIG Cymru yn dilyn adroddiadau bod cleifion yn aros dros 24 awr ar droliau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​17 Ionawr 2017

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.

​17  Ionawr 2017

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2017.

 

​11 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y chwaraewr rygbi o Glwb Rygbi Ynysddu y bu'n rhaid iddo, ar ôl torri ei wddf yn chwarae rygbi ddydd Sadwrn, aros am bron i ddwyawr am ambiwlans?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​10 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? EAQ(5)0097(HWS)

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Ionawr 2017.

 

​10 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y cytundeb ar gyfer y fframwaith cyllidol a gyhoeddwyd cyn y Nadolig?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​10 Ionawr 2017

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar ei chynllun gwerth £15 miliwn teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​14 Rhagfyr 2016

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw? EAQ(5)0100(EI)

 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.

 

​14 Rhagfyr 2016

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4? EAQ(5)0099(EI)

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.

 

​14 Rhagfyr 2016

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig? EAQ(5)0092(CC)W

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Rhagfyr 2016.

 

​14 Rhagfyr 2016

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Aston Martin i adeiladu ffatri newydd yn Sain Tathan, a fydd yn cyflogi 750 o weithwyr â sgiliau uchel, yn dilyn y cyhoeddiad fore heddiw?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​13 Rhagfyr 2016.

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arolwg staff GIG Cymru, a ganfu mai dim ond 30 y cant o gyflogeion oedd yn teimlo bod digon o staff iddynt wneud eu gwaith yn iawn?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​13 Rhagfyr 2016.

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016.

 

​7 Rhagfyr 2016

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016.

​7 Rhagfyr 2016

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe sy'n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli'r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd?
 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016.

 

​7 Rhagfyr 2016

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a'r Undebau ynghylch dyfodol ei weithgareddau yng Nghymru a Phrydain?

 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr 2016.

 

​6 Rhagfyr 2016.

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Ngorllewin De Cymru, o ystyried bod ffigurau diweddar yn dangos mai yng Nghastell-nedd Port Talbot y mae'r cyfraddau uchaf o hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​6 Rhagfyr 2016.

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o facteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, sydd wedi heintio nifer o gleifion a pheri i un ward gyfan gael ei chau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​6 Rhagfyr 2016.

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Ganolfan Feddygol Rhiwabon yn Wrecsam sydd wedi dod â'i chontract gyda'r GIG i ben ar ôl methu â llenwi dwy swydd wag am feddygon?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016.

 

​6 Rhagfyr 2016.

​​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Yn dilyn penderfyniad y Comisiynydd Traffig i ddirymu trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus RJ's o Wem, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2016.

 

​30 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad yr Ombwdsmon a oedd yn cyfeirio at driniaeth wael wrth ryddhau claf o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan arwain at ei farwolaeth 24 awr yn ddiweddarach?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​30 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd Cymru?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016

 

​30 Tachwedd 2016

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016

 

​29 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi'u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu'r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle?

Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Tachwedd 2016

​29 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (South Wales Central): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn dau ddigwyddiad yn Ysbyty Athrofaol Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​29 Tachwedd 2016.

​Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

Jeremy Miles (Neath): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o'r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016

​29 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin? W

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016

 

​29 Tachwedd 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i atal gweithgareddau bwrdd Chwaraeon Cymru dros dro?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd 2016

 

​22 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr anawsterau difrifol roedd ambiwlansys yn eu hwynebu ddydd Sul yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​22 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr opsiynau a gyflwynodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i leihau gwasanaethau paediatrig dros dro yn Ysbyty Llwynhelyg? EAQ(5)0077(HWS)  

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016

​22 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Montgomeryshire): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i symleiddio byrddau cynghori economaidd Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0076(EI)

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016

​22 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn safle Tata ym Mhort Talbot? EAQ(5)0075(EI)

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Tachwedd 2016

​16 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Gan fod llai na hanner y landlordiaid wedi cofrestru ar gynllun Rhentu Doeth Cymru, a wnaiff y Gweinidog ystyried ymestyn dyddiad cau yr wythnos nesaf?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​15 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ynghylch cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol i wisgo siaced achub?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​15 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Yn sgil penderfyniad Grŵp Bancio Lloyds i gau tair o'i ganghennau ym Mhreseli Sir Benfro, pa asesiadau y bydd y Gweinidog yn eu gwneud o effaith y penderfyniad hwn ar gymunedau yn Sir Benfro?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​15 Tachwedd 2016.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r cyllid ardoll prentisiaethau yn dilyn y cytundeb â Llywodraeth y DU?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​9 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yn sgil y tebygolrwydd buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? 
 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd 2016

​9 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Tachwedd 2016

​8 Tachwedd 2016.

​​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi datganiad o gefnogaeth i Bashir Naderi, o gofio ei fod yn dal i wynebu'r bygythiad o gael ei orfodi i adael y DU?

​Ni chafodd ei ganiatáau.

​8 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwriadu cau nifer o safleoedd yng Nghymru?
 

Paul Davies (Preseli Pembrokeshire): Yn sgil bwriad Llywodraeth y DU i gau Barics Cawdor ym Mreudeth, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pa asesiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal o effaith y penderfyniad hwn ar ddatblygu economaidd yn Sir Benfro?

Joyce Watson (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad o dir y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys cynlluniau i werthu tri safle milwrol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Tachwedd 2016.

​​8 Tachwedd 2016.

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o dir lle mae'r Dr Who Experience wedi'i leoli ar hyn o bryd, yn sgil y cyhoeddiad y bydd yn cau yn ystod haf 2017?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​8 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd economaidd a gaiff eu creu yn sgil cyhoeddi lleoli'r Ganolfan Atgyweirio F-35 yng Ngogledd Cymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​1 Tachwedd 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r cyhoeddiad bod 400 o swyddi mewn perygl oherwydd penderfyniad Grŵp 2 Sisters Food i symud ei holl wasanaethau manwerthu o Ferthyr Tudful i Gernyw?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Tachwedd 2016.

​31 Hydref 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Lee Waters (Llanelli): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch penderfyniad y Swyddfa Gartref i beidio â chynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau yn Orgreave?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016.

​31 Hydref 2016

Gofyn i ​Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drydedd rhedfa yn Heathrow?  

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016.

​31 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Neil McEvoy (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch allgludo'r dyn ifanc o Gaerdydd, Bashir Naderi, sydd yn ei arddegau?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​28 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog esbonio pam y cafodd y gweinyddwyr eu galw i Main Port Engineering yn Sir Benfro, er gwaethaf i'r cwmni gael grant o £650,000 gan Lywodraeth Cymru?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016.

​26 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau paediatrig yn Ysbyty Llwyn Helyg?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd 2016.

​13 Hydref 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI)

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Hydref 2016.

 

​13 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am astudiaeth Mynegai Cynnydd Cymdeithasol Rhanbarthol yr UE sy'n rhoi addysg Cymru ar y gwaelod o blith gwledydd y DU?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​12 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price: Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd? 

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 12  Hydref 2016.

​11 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies: Yng ngoleuni tystiolaeth yr Adran Drafnidiaeth, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am benderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi cyn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r M4?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​11 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau amgylcheddol niweidiol yr olew a gollwyd ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​5 Hydref 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiswyddo staff gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn pryderon mewn perthynas ag Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ym Mae Colwyn?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2016

​4 Hydref 2016

​ Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am gynnydd unrhyw gynlluniau ar gyfer canolfan arbenigol a gofal critigol yng Nghwmbrân?

Ni chafodd ei ganiatáu.​

​4 Hydref 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ymddiswyddiad prif gwnsler yr ymchwiliad annibynnol i achosion hanesyddol o gam-drin plant yng Nghymru a Lloegr, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffordd orau o gefnogi plant sydd wedi cael eu cam-drin? 

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​4 Hydref 2016

​Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr UE?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2016.

​4 Hydref 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw?

​Wedi'i ganiatáu. Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Hydref 2016

​27 Medi 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y tán sglodion coed yn Heol y Cyw?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​20 Medi 2016

​Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith


Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sicrwydd y mae wedi'i roi i wneuthurwyr dur yng Nghymru o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gaffael dur a wnaed yng Nghymru?

 

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​13 Medi 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (South Wales Central): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad posibl Llywodraeth Cymru gyda Tata Steel yng ngwaith dur Port Talbot?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​13 Medi 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Simon Thomas (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fyrddau Iechyd Prifysgolion Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Da yn sgil eu codi i statws ymyrraeth wedi'i thargedu?

Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 13 Medi 2016

​13 Medi 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Ford y bydd yn cynhyrchu llai o beiriannau yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 13 Medi 2016

​11 Gorffennaf 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â TATA Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad TATA i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU? EAQ(5)0036(EI)

​​​Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 12 Gorffennaf 2016

​4 Gorffennaf 2016

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn datganiad Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y DU, a wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru? EAQ(5)0105(FM)

​​Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn 5 Gorffennaf 2016

​24 Mai 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben? EAQ(5)0001(EDU)

Wedi'i ganiatáu: Atebwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2016

​23 Mai 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol, yng ngoleuni sylwadau cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd nad yw am weld ad-drefnu o'r brig i'r bôn yn cael ei orfodi ar awdurdodau lleol?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​23 Mai 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i feddygon teulu yng ngogledd Cymru, yng ngoleuni penderfyniad meddygfa Llys Meddyg yng Nghonwy i ddod â'i chontract gyda'r GIG i ben?  

​Ni chafodd ei ganiatáu.

​23 Mai 2016

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y dulliau economaidd datganoledig sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

​Ni chafodd ei ganiatáu.

Cwestiynau Brys (Y Pedwerydd Cynulliad)