Datganiadau

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Datganiadau Llafar

Bydd Gweinidogion y Llywodraeth yn gwneud datganiadau llafar am faterion sydd o ddiddordeb ac o bwys i'r Senedd. Caiff y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, Comisiynwyr y Senedd neu ASau eraill sydd â chyfrifoldebau penodol (e.e. ASau sy'n cynnig deddfwriaeth) wneud datganiadau llafar hefyd. Caiff yr Aelodau ofyn cwestiynau am y rhan fwyaf o'r datganiadau hyn ac fel rheol, neilltuir cyfnod o amser penodol ar gyfer y rhain ar Agenda'r Cyfarfod Llawn.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Math arbennig o ddatganiad yw'r Datganiad a'r Cyhoeddiad Busnes a wneir bob wythnos yn y Cyfarfod Llawn gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am fusnes y llywodraeth. Yn y Datganiad a'r Cyhoeddiad Busnes, rhestrir busnes y Senedd yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

Datganiadau Personol

Caiff y Llywydd ganiatáu i Aelod wneud datganiad personol. Fe all hyn ddigwydd os bydd Aelod yn dymuno gwneud datganiad gerbron y Cyfarfod Llawn ynglŷn ag ymddiswyddo fel cadeirydd pwyllgor, er enghraifft, neu ynglŷn â chroesi'r llawr. Rhaid i ddatganiadau personol fod yn gryno ac yn ffeithiol ac ni cheir cynnal dadl yn eu cylch.

Datganiadau Ysgrifenedig

Caiff y Llywodraeth neu'r Comisiwn gyhoeddi datganiadau ysgrifenedig hefyd am unrhyw fater o fewn eu cyfrifoldebau. Fel rheol, bydd y rhain yn ymwneud â materion technegol neu faterion nad oes angen datganiad llafar yn eu cylch  yn y Cyfarfod Llawn. Fel rheol, bydd Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn anfon unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig yn syth at yr Aelodau dros e-bost. Mae datganiadau y Llywodraeth yn cael eu cyhoeddi ar wefan gyhoeddus Llywodraeth Cymru.