Pleidleisio

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/10/2024   |   Amser darllen munud

Pan fydd gofyn i'r Senedd benderfynu ar unrhyw eitem o fusnes, gwahoddir yr Aelodau i gytuno ar hynny. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais. Mae'n bosib y gofynnir i'r Aelodau bleidleisio ar unwaith, neu mae'n bosib y gofynnir iddynt wneud hynny ar adeg arbennig, sef adeg y 'cyfnod pleidleisio'.

Y cyfnod pleidleisio

Pwynt ar Agenda'r Cyfarfod Llawn yw'r cyfnod pleidleisio y bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno arno, a dyma pryd y cynhelir pob pleidlais a ohiriwyd. Gall nifer y cynigion y pleidleisir arnynt amrywio, ond bydd neges yn ymddangos ar sgrin pob Aelod yn gofyn iddynt bleidleisio pan fydd angen gwneud hynny.

Pleidleisio electronig

Gan fod Cyfarfodydd Llawn yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid, mae'r Aelodau yn y Siambr a rhithwir yn defnyddio meddalwedd pleidleisio electronig, a ddatblygwyd gan Gomisiwn y Senedd yn ystod y pandemig.

Ar gyfer bob pleidlais a gynhaliwyd, gall Aelodau pleidleisio "O blaid" neu "Yn erbyn", neu "Ymatal". Unwaith y mae Aelodau'n cadarnhau eu pleidlais, ni all ei newid. Unwaith mae pleidlais yn cau, ni oes modd newid y pleidleisiau sydd wedi eu bwrw. Gall Aelodau sy'n dioddef problemau technegol pleidleisio ar lafar, gyda chaniatâd y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd.

Ffurfiau eraill ar bleidleisio

Rhaid cynnal ambell bleidlais mewn ffordd arbennig. Er enghraifft, os oes mwy nag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Llywydd, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol. Os bydd mwy nag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Prif Weinidog, rhaid galw cofrestr yr Aelodau. Os na fydd y system bleidleisio electronig yn gweithio, caiff y Llywydd ddewis cynnal y bleidlais drwy godi llaw neu drwy alw cofrestr yr Aelodau.

Canlyniadau'r pleidleisio

Cyhoeddir canlyniad pob pleidlais ar ôl y cyfarfod mewn dogfen a elwir yn Bleidleisiau a Thrafodion a Chofnod y Trafodion. Cyhoeddir Crynodeb o'r Pleidleisiau hefyd sy'n cynnwys manylion llawn am sut y pleidleisiodd pob Aelod ar bob eitem o fusnes.