Pleidleisio

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/12/2020   |   Amser darllen munudau

Pan fydd gofyn i'r Senedd benderfynu ar unrhyw eitem o fusnes, gwahoddir yr Aelodau i gytuno ar hynny. Os bydd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, rhaid cynnal pleidlais. Mae'n bosib y gofynnir i'r Aelodau bleidleisio ar unwaith, neu mae'n bosib y gofynnir iddynt wneud hynny ar adeg arbennig, sef adeg y 'cyfnod pleidleisio'.

Y cyfnod pleidleisio

Pwynt ar Agenda'r Cyfarfod Llawn yw'r cyfnod pleidleisio y bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno arno, a dyma pryd y cynhelir pob pleidlais a ohiriwyd. Gall nifer y cynigion y pleidleisir arnynt amrywio, ond bydd neges yn ymddangos ar sgrin pob Aelod yn gofyn iddynt bleidleisio pan fydd angen gwneud hynny.

Pleidleisio electronig

Siambr ddadlau electronig yw'r Siambr. Ar waelod cyfrifiadur pob Aelod, mae lle i gerdyn sy'n dilysu pwy ydynt. Mae tri botwm ar y cyfrifiadur hefyd:

  • Gwyrdd: i bleidleisio o blaid
  • Gwyn: i atal pleidlais
  • Coch: i bleidleisio yn erbyn

Bydd yr Aelodau'n dewis pa fotwm i'w bwyso ac fe ddangosir y canlyniadau ar sgriniau plasma'r Siambr ar ddiwedd pob pleidlais. Ar ôl cau'r bleidlais, nid oes modd newid y bleidlais a fwriwyd.

Ffurfiau eraill ar bleidleisio

Rhaid cynnal ambell bleidlais mewn ffordd arbennig. Er enghraifft, os oes mwy nag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Llywydd, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol. Os bydd mwy nag un ymgeisydd ar gyfer swydd y Prif Weinidog, rhaid galw cofrestr yr Aelodau. Os na fydd y system bleidleisio electronig yn gweithio, caiff y Llywydd ddewis cynnal y bleidlais drwy godi llaw neu drwy alw cofrestr yr Aelodau.

Canlyniadau'r pleidleisio

Cyhoeddir canlyniad pob pleidlais ar ôl y cyfarfod mewn dogfen a elwir yn Bleidleisiau a Thrafodion a Chofnod y Trafodion. Cyhoeddir Crynodeb o'r Pleidleisiau hefyd sy'n cynnwys manylion llawn am sut y pleidleisiodd pob Aelod ar bob eitem o fusnes.