Ymddygiad yn y Siambr

Cyhoeddwyd 01/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Rhaid i'r Aelodau ymddwyn yn y Siambr mewn ffordd sy'n hyrwyddo parch at y Senedd ac mewn ffordd sy'n dangos parch a chwrteisi at Aelodau eraill bob amser. Rhaid i'r Aelodau gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y cadeirydd ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr neu ynglŷn â'r drefn yn y Cyfarfod Llawn.

Y Cadeirydd

Y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd a fydd yn cadeirio Cyfarfodydd Llawn. Eu gwaith yw sicrhau bod y trafodion yn effeithlon ac yn deg. Byddant yn gwneud hyn drwy neilltuo amser penodol i'r Aelodau sy'n dymuno cyfrannu at drafodaethau a thrwy alw gwahanol eitemau ar yr Agenda ar adegau perthnasol yn ystod Cyfarfod Llawn. Caiff y Llywydd a'r Dirprwy eu hethol gan y Senedd cyfan i fod yn swyddogion diduedd ac i sicrhau bod pob grŵp gwleidyddol yn cael ei drin yn gydradd ym mhob agwedd ar waith y Senedd.

Rheolau Sefydlog

Pan fydd y cadeirydd yn cadeirio'r Cyfarfod Llawn, bydd yn dehongli ac yn rhoi ar waith cyfres o reolau a elwir yn 'Rheolau Sefydlog'. Rheolau gweithdrefnau'r Senedd yw'r Rheolau Sefydlog a rhaid i'r Senedd eu dilyn. Dim ond os bydd dwy ran o dair o Aelodau'r Senedd yn cytuno y bydd modd newid y rheolau hyn. Mae'r Rheolau Sefydlog hefyd yn dweud yn fanwl sut y dylid trefnu'r busnes.

Gofynnir i'r Llywyddion ddehongli'r Rheolau Sefydlog yn y Cyfarfod Llawn, er enghraifft pan fydd Aelod am geisio cyngor ynglŷn â sut yr ymdrinnir â busnes. Gelwir hyn yn godi 'Pwynt o Drefn'. Efallai hefyd y bydd yn rhaid iddynt ofyn i unrhyw Aelod nad yw'n cydymffurfio â rheolau'r ddadl ymddwyn yn unol â rheolau'r Senedd. Gelwir hyn yn "galw Aelod i drefn".

Rheolau Sefydlog Senedd Cymru

Siarad yn y Siambr

Caniateir i bob Aelod siarad yn y Cyfarfod Llawn a'r cadeirydd sy'n penderfynu pwy i alw. Caiff Aelodau naill ai wneud cais cyn y Cyfarfod Llawn am gael siarad neu fe allant ddefnyddio system neges frys y Siambr yn ystod y trafodion, i ddangos eu bod am gyfrannu.

Caiff yr Aelodau siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg a disgwylir iddynt annerch y cadeirydd.

Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i'r aelodau drwy eu clustffonau.