Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

Cyhoeddwyd: Mai 2025

Awdur: Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd

Bil cysylltiedig: Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

 

Croeso i dudalen adroddiad canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu ar gyfer y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru). 

Mae isdeitlau ar y fideos Iaith Arwyddion Prydain. Gallwch hefyd agor y fersiwn Gymraeg neu’r fersiwn Saesneg a darllen yr adroddiad ochr yn ochr â'r fideos Iaith Arwyddion Prydain.

Mae penawdau'r penodau a rhifau'r paragraffau yn cyfateb, ac felly mae'n hawdd dilyn y testun a'r fideo ar yr un pryd.

Gobeithiwn y bydd y fformat hwn yn eich helpu i gael mynediad at y canfyddiadau a'u deall. Diolch am roi o’ch amser i archwilio’r adroddiad.

 

Lawrlwytho canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

 

Download engagement findings

 

 

 

 


 

Cynnwys:

Cefndir

Crynodeb gweithredol

↓ Datrysiadau

↓ Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

Iaith Arwyddion Prydain: Iaith, Hunaniaeth a Diwylliant

Iechyd

Addysg

Gwasanaethau cyhoeddus

Hyfforddiant a chyflogaeth

Argaeledd a hygyrchedd dehonglwyr BSL

Cydnabyddiaeth a hyrwyddo BSL

Comisiynydd BSL

 

 


 

Cefndir

Mae'r bennod hon yn cynnig trosolwg o amcanion, methodoleg a dyluniad y gwaith ymgysylltu, gan amlinellu'r dull a ddefnyddiwyd i gasglu mewnwelediadau gan arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain a'u teuluoedd.

Gweler hanes cefndir y canfyddiadau

 

 

 

Nôl i'r cynnwys

 

Crynodeb gweithredol

BSL fel iaith a hunaniaeth

Caiff BSL ei gweld fel iaith "hardd" sy'n ganolog i hunaniaeth y cyfranogwyr. Mae modelau rôl fel Rose Ayling-Ellis wedi meithrin balchder, ond prin yw’r gydnabyddiaeth gymdeithasol a pharch at BSL o hyd.

 

Rhwystrau gofal iechyd

Mae pobl fyddar yn wynebu rhwystrau cyfathrebu helaeth, o systemau apwyntiadau dros y ffôn i ddiffyg staff gofal iechyd â hyfforddiant BSL. Soniodd y cyfranogwyr am staff derbynfa annigonol, systemau gwael ar gyfer trefnu dehonglwyr, a gofal anniogel oherwydd cam-gyfathrebu. Roedd y datrysiadau posibl yn cynnwys systemau apwyntiad gweledol a chronfeydd data GIG yn gwneud nodyn o anghenion cleifion byddar.

 

Heriau addysg

Mae mynediad cynnar cyfyngedig i BSL yn effeithio ar ddatblygiad iaith plant byddar. Mae teuluoedd yn wynebu rhwystrau ariannol a systemig i ddysgu BSL, ac mae’r cymorth mewn ysgolion prif ffrwd yn anghyson. Galwodd y cyfranogwyr i BSL fod yn rhan o’r cwricwlwm ac i ysgolion byddar penodedig yng Nghymru leihau’r ymdeimlad o ynysu a meithrin hunaniaeth.

 

Gwasanaethau cyhoeddus a hygyrchedd

Mae darpariaeth BSL anghyson ar draws awdurdodau lleol yn creu loteri cod post. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a gofal preswyl yn aml yn methu â bodloni anghenion arwyddwyr BSL.

 

Cyflogaeth a hyfforddiant

Mae hyfforddiant anhygyrch a chymorth annigonol gan y ganolfan waith yn golygu bod diweithdra’n parhau, gan gyfrannu at ynysu cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl.

 

Prinder dehonglwyr a systemau archebu

Mae prinder dehonglwyr BSL a systemau archebu gwael yn cyfyngu ar fynediad i wasanaethau hanfodol. Galwodd y cyfranogwyr am un system archebu ar gyfer Cymru gyfan wedi’i chreu ar y cyd â phobl fyddar.

 

Cydnabod a hyrwyddo BSL

Galwodd y cyfranogwyr i BSL gael yr un gydnabyddiaeth a chefnogaeth gyfreithiol â’r Gymraeg, gan bwysleisio ei rôl fel iaith angenrheidiol. Galwyd am gyrsiau BSL cymunedol hygyrch.

 

Cynrychiolaeth ac arweinyddiaeth

Cytunodd y cyfranogwyr y dylai'r Comisiynydd BSL fod yn arwyddwr BSL byddar. Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon â’r gymuned fyddar wrth bennu rôl y Comisiynydd. Galwodd hefyd am bwerau gorfodi i’r Comisiynydd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn bodloni eu rhwymedigaethau.

 

 

 

Nôl i'r cynnwys

 

Datrysiadau

Mae'r bennod hon yn cyflwyno'r 24 o atebion a gynigiwyd gan gyfranogwyr yn ystod y trafodaethau.

Maent yn adlewyrchu gobeithion y cyfranogwyr am y newidiadau posibl y gallai Deddf Iaith Arwyddion Prydain eu cyflwyno, a'r potensial ar gyfer polisïau hirdymor i gryfhau hawliau, cydnabyddiaeth a chynhwysiant arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.

Darllenwch yr holl atebion arfaethedig

 

 

 

Nôl i'r cynnwys

 

Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

Mae’r adran hon yn nodi’r prif themâu a’r safbwyntiau a fynegwyd gan gyfranogwyr.

Edrychwch yn fanwl ar ganfyddiadau'r gwaith ymgysylltu 

 

Iaith Arwyddion Prydain: Iaith, Hunaniaeth a Diwylliant

Mae'r bennod hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd Iaith Arwyddion Prydain fel iaith ganolog i hunaniaeth a diwylliant y gymuned Fyddar, gan drafod rhwystrau i gydnabyddiaeth a pharch hefyd

 

 

Iechyd

Mae'r bennod hon yn trafod y rhwystrau cyfathrebu y mae unigolion byddar yn eu hwynebu mewn gofal iechyd, gan gynnwys problemau gydag apwyntiadau, mynediad at ddehonglydd, a gofal anniogel.

 

 

Addysg

Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a chefnogaeth i deuluoedd, parhad cyfathrebu ar draws yr ysgol, y cartref a'r gymuned, pryderon o ran addysg brif ffrwd Iaith Arwyddion Prydain, a galwad am ysgol arbenigol i blant byddar yng Nghymru.

 

 

Gwasanaethau cyhoeddus

Mae'r bennod hon yn trafod yr heriau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau awdurdodau lleol, trafnidiaeth gyhoeddus a gofal i'r henoed, yn enwedig oherwydd diffyg darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain.

 

 

Hyfforddiant a chyflogaeth

Mae'r bennod hon yn trafod y rhwystrau i gael mynediad at addysg a hyfforddiant galwedigaethol i unigolion byddar, gan gynnwys diffyg cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain a'r effaith ar gyfleoedd cyflogaeth.

 

 

Argaeledd a hygyrchedd dehonglwyr BSL

Mae'r bennod hon yn mynd i'r afael â'r prinder dybryd o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cymwys yng Nghymru, yr heriau gyda systemau trefnu dehonglwyr, a'r diffyg ymgynghori â'r gymuned Fyddar wrth ddylunio gwasanaethau.

 

 

Cydnabyddiaeth a hyrwyddo BSL

Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar y rhwystrau i ddysgu a chael mynediad at Iaith Arwyddion Prydain, y cydraddoldeb rhwng Iaith Arwyddion Prydain, y Gymraeg a'r Saesneg, a'r galw i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain yn gyfreithiol.

 

 

Comisiynydd BSL

Mae'r bennod hon yn nodi barn cyfranogwyr ar y rôl a'r pwerau sydd eu hangen ar Gomisiynydd Iaith Arwyddion Prydain, gan bwysleisio pwysigrwydd profiad byw a chynrychiolaeth yn y rôl hefyd.