Atodlen 7

Cyhoeddwyd 25/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2020   |   Amser darllen munud

Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

(Cyfieithiad i'r Gymraeg er gwybodaeth yw’r ddogfen hon ac nid oes iddi rym cyfreithiol.
This is a translation into Welsh for information and it has no legal effect.)

Rhwng 5 Mai 2011 a 1 Ebrill 2017, ystyriodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Filiau’r Cynulliad bynciau o blith nifer o bynciau (er 17 Rhagfyr 2014, mae rhai pwerau codi treth wedi cael eu datganoli o dan Ddeddf Cymru 2014, a gododd nifer y pynciau o 20 i 21).
Mae Adran 108 o Ddeddf 2006, ynghyd â Rhan 1 o Atodlen 7, yn nodi rhychwant cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad trwy restru 21 o bynciau cyffredinol.

Cover of GOWA 2006Mae rhagor o wybodaeth manwl ar y broses ddeddfwriaethol ar gael ar dudalen gwe deddfwriaeth.

Atodlen 7: Deddfau Cynulliad: Rhan 1 - Pynciau

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygu economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Gwasanaethau tân ac achub a hybu diogelwch rhag tân
  • Bwyd
  • Iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Twristiaeth
  • Trethiant
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dwr ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Y Gymraeg
  • Rhan 2: Cyfyngiadau Cyffredinol
  • Rhan 3: Eithriadau i'r Cyfyngiadau

Rhan 1 - Pynciau

1. Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
Amaethyddiaeth. Garddwriaeth. Coedwigaeth. Pysgodfeydd a physgota. Iechyd a lles anifeiliaid. Amrywiaethau planhigion a hadau. Datblygu gwledig

Yn y rhan hon o'r Atodlen, ystyr "anifail" yw—

(a) mamaliaid nad ydynt yn fodau dynol, a

(b) pob anifail heblaw mamaliaid;
a rhaid dehongli ymadroddion perthnasol yn unol â hynny.

Eithriadau—

Hela â chwn;

Rheoleiddio gweithgareddau gwyddonol neu weithgareddau arbrofol eraill ar anifeiliaid;

Rheoli mewnforio ac allforio, a rheoleiddio symud anifeiliaid, planhigion a phethau eraill heblaw (ond yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir gan unrhyw Ddeddf Seneddol, neu yn rhinwedd unrhyw Ddeddf Seneddol, sy'n ymwneud â rheoli mewnforion neu allforion) symud y canlynol i mewn ac allan o Gymru ac o fewn Cymru—

(a) anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, [...] planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill sy'n berthnasol iddynt at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid [neu iechyd planhigion], lles anifeiliaid neu'r amgylchedd neu o ran cydymffurfio neu weithredu ymrwymiadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a

(b) bwyd anifeiliaid, gwrteithiau a phlaladdwyr (neu bethau a ystyrir yn blaladdwyr yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid [neu iechyd planhigion] neu ddiogelu'r amgylchedd.

Awdurdodi meddyginiaethau milfeddygol a chynnyrch meddyginiaethol.

 

2. Henebion ac adeiladau hanesyddol

Gweddillion archaeolegol. Henebion. Adeiladau a lleoedd o ddiddordeb hanesyddol neu bensaerniol. Gweddillion llongddrylliadau hanesyddol.

 

3.Diwylliant

Celf a chrefft. Amgueddfeydd ac orielau. Llyfrgelloedd. Archifau a chofnodion hanesyddol. Gweithgareddau a phrosiectau hanesyddol.

Eithriadau—

Hawl fenthyca gyhoeddus.

Darlledu.

Dosbarthiad ffilmiau a recordiadau fideo.

Indemniadau'r Llywodraeth ar gyfer gwrthrychau ar fenthyg.

Taliadau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng nghyswllt eiddo a dderbyniwyd yn lle treth, heblaw eiddo sydd o ddiddordeb cenedlaethol i Gymru.

 

4. Datblygu economaidd

Adfywio a datblygu economaidd, gan gynnwys datblygiad cymdeithasol cymunedau, adennill tir diffaith a gwella'r amgylchedd. Hybu busnes a chystadleurwydd.

Eithriadau—

Polisi cyllidol, economaidd ac ariannol [ (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â threthi datganoledig) ] a rheoleiddio masnach ryngwladol.

Rheoleiddio arferion a chytundebau gwrthgystadleuol, camddefnyddio safle trech a monopolïau ac uno cwmnïau.

Eiddo deallusol, ar wahân i amrywiaethau planhigion.

Creu, gweithredu, rheoleiddo a diddymu mathau o gymdeithasau busnes.

Methdaliad.

Safonau a diogelwch cynnyrch a'r atebolrwydd amdanynt, heblaw mewn perthynas â bwyd (gan gynnwys deunydd pacio a deunyddiau eraill sy'n dod i gysylltiad â bwyd) cynnyrch amaethyddol a garddwriaethol, [anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid,] hadau, gwrteithiau a phlaladdwyr (a phethau a ystyrir yn blaladdwyr yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad).

Diogelu cwsmeriaid, gan gynnwys gwerthu a chyflenwi nwyddau i gwsmeriaid, gwarantau cwsmeriaid, hurbwrcasu, disgrifiadau masnach, hysbysebu a dynodiadau pris, heblaw mewn perthynas â bwyd (gan gynnwys deunydd pacio a deunyddiau eraill sy'n dod i gysylltiad â bwyd), cynhyrchion amaethyddol a garddwriaethol, [anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid,] hadau, gwrteithiau a phlaladdwyr (a phethau a ystyrir yn blaladdwyr yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad).

Gwasanaethau ariannol, gan gynnwys busnes buddsoddi, bancio a chymryd adneuon, cynlluniau buddsoddi cyfunol ac yswiriant.

[Cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol (gan gynnwys cynlluniau sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer colli swydd neu gyflogaeth, iawndal am golli enillion neu ostyngiad mewn enillion, neu fudd-daliadau mewn perthynas â marwolaeth neu analluedd sy'n deillio o anaf neu afiechyd), heblaw cynlluniau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48, y Cwnsler Cyffredinol neu Ddirprwy Weinidogion Cymru neu mewn perthynas ag Aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48, y Cwnsler Cyffredinol neu Ddirprwy Weinidogion Cymru [ a chynlluniau ar gyfer aelodau awdurdodau lleol neu mewn perthynas â hwy] .]

Y marchnadoedd ariannol, gan gynnwys rhestru a chynigion cyhoeddus o warannau a buddsoddiadau, trosglwyddo gwarannau, masnachu mewnol a gwyngalchu arian.

Telegyfathrebu, telegraffi di-wifr (gan gynnwys aflonyddwch electromagnetig), gwasanaethau rhyngrwyd ac amgryptio electronig.

Gwasanaethau post, swyddfeydd post a Swyddfa'r Post, heblaw cymorth ariannol ar gyfer darparu gwasanaethau (heblaw gwasanaethau post a gwasanaethau sy'n ymwneud ag arian neu archebion post) i'w darparu o swyddfeydd post cyhoeddus.

Cynhyrchu, trawsyrru [, dosbarthu] a chyflenwi trydan [...] .

Arbed ynni, heblaw rhoi anogaeth i ddefnyddio ynni'n effeithlon ar wahân i wahardd neu reoleiddio.

Glo, gan gynnwys mwyngloddio ac ymsuddiant, heblaw adfer tir a materion amgylcheddol eraill.

Olew a nwy […] .

[Ynni niwclear a gosodiadau niwclear [a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear][—

a. gan gynnwys diogelwch niwclear ac atebolrwydd dros ddigwyddiadau niwclear;

b. ond heb gynnwys gwaredu gwastraff isel iawn ei ymbelydredd sydd wedi ei symud o safle y mae'n ofynnol iddo gael trwydded safle niwclear.] ]

Unedau a safonau pwyso a mesur a rheoleiddio masnach sy'n ymwneud â phwyso, mesur a niferoedd.

Y Bwrdd Cynghori ar Ddatblygu Diwydiannol.

 

5. Addysg a hyfforddiant

Addysg, hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol a chorfforol a'r gwasanaeth gyrfaoedd. Hybu dyrchafu a chymhwyso gwybodaeth.

Eithriad—

Cynghorau ymchwil.

 

6. Yr amgylchedd

Gwarchodaeth amgylcheddol, gan gynnwys llygredd, niwsans a sylweddau peryglus. Atal, lleihau, casglu, rheoli, trin a gwaredu gwastraff. Draenio tir a gwella tir. Cefn gwlad a mannau agored (gan gynnwys dynodi a rheoleiddio parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol). Cadwraeth natur a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Diogelu cynefinoedd naturiol, yr arfordir a’r amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr). Bioamrywiaeth. Organebau a addaswyd yn enetig. Mân-ddaliadau a rhandiroedd. Tir comin. Meysydd tref neu bentref. Claddu ac amlosgi [, heblaw swyddogaethau crwneriaid]

 

7. Gwasanaethau tân ac achub a diogelwch rhag tân

Gwasanaethau tân ac achub. Darparu systemau llethu tân awtomatig mewn mangreoedd preswyl newydd a mangreoedd wedi'u haddasu o'r newydd at ddibenion preswyl. Hybu diogelwch tân drwy ddulliau heblaw gwahardd neu reoleiddio.

 

8. Bwyd

Bwyd a chynhyrchion bwyd. Diogelwch bwyd (gan gynnwys deunydd pacio a deunyddiau eraill sy'n dod i gysylltiad â bwyd). Diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Mae "bwyd" yn cynnwys diod.

 

9. Iechyd a gwasanaethau iechyd

Hybu iechyd. Atal, trin a lleddfu afiechyd, salwch, anaf, anabledd ac anhwylder meddyliol. Rheoli afiechydon. Cynllunio teulu. Darparu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau a chyfleusterau meddygol, deintyddol, ophthalmig, fferyllol ac ategol. Llywodraethu clinigol a safonau gofal iechyd. Trefnu ac ariannu'r gwasanaeth iechyd gwladol.

Eithriadau—

Erthylu.

Geneteg ddynol, ffrwythloniad dynol, embryoleg ddynol, trefniadau benthyg croth.

Senodrawsblannu.

Rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol (gan gynnwys personau sy'n cyflenwi cymhorthion clyw).

Gwenwynau.

Camddefnyddio cyffuriau a delio cyffuriau.

Meddyginiaethau dynol a chynnyrch meddyginiaethol, gan gynnwys awdurdodi'r defnydd ohonynt a rheoleiddio'u prisiau.

Safonau ar gyfer sylweddau biolegol, a'u profi (hynny yw, sylweddau na ellir profi eu purdeb neu eu cryfder yn ddigonol drwy ddulliau cemegol).

Taliadau niwed a achoswyd gan frechiadau.
Bwydydd lles

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Gwasanaeth Cynghori Meddygol ar Gyflogaeth a'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau iechyd a diogelwch.

 

10. Priffyrdd a thrafnidaieth

Priffyrdd, gan gynnwys pontydd a thwneli. Gwaith stryd. Rheoli a rheoleiddio traffig. Gwasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth.

Eithriadau—

Cofrestru gwasanaethau bysiau lleol a chymhwyso a gorfodi amodau rheoleiddio traffig mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny.

Gwasanaethau cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan gynnwys trwyddedu gweithredwyr cerbydau nwyddau.

Rheoleiddio'r gwaith o adeiladu cerbydau modur a threlars a'u cyfarpar, a rheoleiddio'r defnydd o

gerbydau modur a threlars ar ffyrdd, heblaw—

(a) unrhyw reoleiddio o'r fath—

(i) sy'n berthnasol i gynlluniau i godi taliadau mewn perthynas â defnyddio neu gadw cerbydau modur ar gefnffyrdd Cymru ("cynlluniau codi taliadau ar gefnffyrdd"), neu

(ii) sy'n ymwneud â'r disgrifiadau o gerbydau modur a threlars y caniateir eu defnyddio o dan drefniadau i bersonau deithio yn ôl ac ymlaen o'r mannau lle maent yn cael addysg neu hyfforddiant, oni bai bod y rheoliad yn ymwneud â gosod safonau technegol ar gyfer adeiladu cerbydau modur neu drelars neu gyfarpar sy'n wahanol i'r safonau a fyddai'n gymwys iddynt fel arall neu a allai fod yn gymwys iddynt fel arall; a

(b) rheoleiddio'r defnydd o gerbydau modur a threlars sy'n cludo anifeiliaid at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid neu iechyd planhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.]

Troseddau traffig ffyrdd.

Trwyddedu gyrwyr.

Hyfforddiant gyrru.

Yswirio cerbydau modur.

Oriau gyrwyr.

Rheoleiddio traffig ar ffyrdd arbennig, heblaw rheoleiddio sy'n ymwneud â chynlluniau codi taliadau ar gefnffyrdd.

Croesfannau i gerddwyr;

Arwyddion traffig, heblaw gosod a chynnal a chadw arwyddion traffig sy'n ymwneud â chynlluniau codi taliadau ar gefnffyrdd.

Terfynau cyflymder.

Gwasanaethau trafnidiaeth ffordd rhyngwladol ar gyfer teithwyr.

Trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.

Dogfennau sy'n ymwneud â cherbydau a gyrwyr at ddibenion teithio dramor a cherbydau sy'n dod i Gymru dros dro gan bersonau sy'n byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Treth ar gerbydau a chofrestru cerbydau.

Darparu a rheoleiddio gwasanaethau rheilffyrdd, heblaw cymorth ariannol—

(a) nad yw'n ymwneud â chludo nwyddau,

(b) nad yw'n cael ei wneud mewn cysylltiad â gorchymyn gweinyddu rheilffyrdd, ac

[(c) nad yw'n cael ei wneud mewn cysylltiad â Rheoliad (EC) Rhif 1370/2007 Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd ynghylch gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar reilffyrdd ac ar ffyrdd.]

Diogelwch trafnidiaeth, heblaw rheoleiddio sy'n ymwneud â chludo oedolion sy'n goruchwylio personau sy'n teithio yn ôl ac ymlaen o'r mannau lle maent yn cael addysg neu hyfforddiant.

Treftadaeth rheilffyrdd.

Hedfan, trafnidiaeth awyr, meysydd awyr ac erodromau, heblaw—

(a) cymorth ariannol i ddarparwyr neu ddarpar ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth awyr neu gyfleusterau neu wasanaethau meysydd awyr,

(b) strategaethau gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau lleol neu awdurdodau cyhoeddus eraill ynghylch darparu gwasanaethau awyr, ac

(c) rheoleiddio'r defnydd o awyrennau sy'n cludo anifeiliaid at [y dibenion o ddiogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid, neu iechyd planhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.

Llongau, heblaw—

(a) cymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau llongau i Gymru, o Gymru neu o fewn Cymru, a

(b) rheoleiddio'r defnydd o longau sy'n cludo anifeiliaid at [y dibenion o ddiogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid, neu iechyd planhigion, lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd.
Hawliau a rhyddid mordwyo, heblaw rheoleiddio gwaith a allai rwystro neu beryglu mordwyaeth.
Safonau technegol a diogelwch llongau.

Harbyrau, dociau, glanfeydd a llithrfeydd ar gyfer cychod, heblaw—

(a) y rheini a ddefnyddir neu sydd eu hangen yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamddena neu ar gyfer cysylltu rhwng mannau yng Nghymru (neu at ddau neu ragor o'r dibenion hyn), a

(b) rheoleiddio at y dibenion o ddiogelu iechyd pobl, anifeiliaid, [neu blanhigion], lles anifeiliaid, neu'r amgylchedd;

Cludo nwyddau peryglus (gan gynnwys cludo deunydd ymbelydrol).

Manylebau technegol ar gyfer tanwydd i'w ddefnyddio mewn motorau tanio mewnol.

 

11. Tai

Tai. Ariannu tai ac eithrio cynlluniau sy'n cael cefnogaeth o gronfeydd canolog neu leol sy'n darparu cymorth at ddibenion nawdd cymdeithasol i unigolion neu mewn perthynas ag unigolion ar ffurf budd-daliadau. Hybu'r defnydd o effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni yn y cartref heblaw drwy wahardd neu reoleiddio. Rheoleiddio rhenti. Digartrefedd. Carafannau preswyl a chartrefi symudol.

 

12. Llywodraeth leol

Cyfansoddiad, strwythur ac ardaloedd awdurdodau lleol. Trefniadau etholiadol awdurdodau lleol. Pwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol a'u haelodau a'u swyddogion. Ariannu llywodraeth leol.

Nid yw "awdurdodau lleol" yn cynnwys [comisiynwyr heddlu a throseddu].

Eithriadau—

Etholfraint llywodraeth leol.

Cofrestru a gweinyddu etholiadol.

Cofrestru genedigaethau, priodasau, partneriaethau sifil a marwolaethau.

Trwyddedu gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr yn y nos;

[Gorchmynion i ddiogelu pobl rhag ymddygiad sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid neu ymddygiad sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid].

Pridiannau tir lleol, heblaw ffioedd.

Masnachu ar y Sul.

Darparu cyngor a chymorth dramor gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â chynnal gweithgareddau llywodraeth leol yno.

 

13. Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cwynion am Aelodau'r Cynulliad (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer swydd neu gorff neu ynghylch swydd neu gorff ar gyfer ymchwilio i gwynion o'r fath, a llunio adroddiad am ymchwiliadau). Comisiwn y Cynulliad. Cyflogau, lwfansau, pensiynau ac arian rhodd i'r canlynol ac mewn perthynas â'r canlynol: Aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru. Cofrestru buddiannau Aelodau'r Cynulliad a'r Cwnsler Cyffredinol. Ystyr geiriau ac ymadroddion Cymraeg ym Mesurau a Deddfau'r Cynulliad, mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesurau a Deddfau'r Cynulliad, ac mewn is-ddeddfwriaeth arall os caiff ei gwneud gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol. Deddfwriaeth breifat yn y Cynulliad. Cymorth ariannol i grwpiau gwleidyddol y mae Aelodau'r Cynulliad yn perthyn iddynt. Sêl Cymru. Trefniadau ar gyfer argraffu Deddfau'r Cynulliad, is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Fesurau a Deddfau'r Cynulliad, ac is-ddeddfwriaeth arall os caiff ei gwneud gan Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol.

[Gweithdrefnau cyllidebol.

"Gweithdrefnau cyllidebol" yw gweithdrefnau ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n ymwneud ag—

(a) awdurdodi swm yr adnoddau y caniateir eu defnyddio neu eu cadw y flwyddyn honno gan bersonau perthnasol neu yn unol â deddfiad perthnasol,

(b) awdurdodi'r swm y caniateir ei dalu o Gronfa Gyfunol Cymru yn y flwyddyn honno i bersonau perthnasol neu i'w ddefnyddio yn unol â deddfiad perthnasol, neu

(c) craffu ar y defnydd a wneir o symiau a awdurdodir o dan baragraff (a) neu (b) neu ar y modd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer pwerau benthyca.

Mae'r canlynol yn "bersonau perthnasol"—

(a) Gweinidogion Cymru,

(b) Prif Weinidog Cymru,

(c) y Cwnsler Cyffredinol,

(d) Comisiwn y Cynulliad,

(e) Swyddfa Archwilio Cymru, ac

(f) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

"Deddfiad perthnasol" yw deddfiad sy'n darparu ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae'r cyfeiriad at ddefnyddio adnoddau yn gyfeiriad at eu gwario, eu treulio neu ostyngiad o ran eu gwerth.]

 

14. Gweinyddiaeth gyhoeddus

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Archwilydd Cyffredinol Cymru. Archwilio, rheoleiddio ac arolygu awdurdodau cyhoeddus archwiliadwy. Ymchwiliadau, o ran materion y mae Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hwy. Cyfle cyfartal mewn perthynas ag awdurdodau cyhoeddus cyfle cyfartal. Mynediad at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus mynediad agored.

Mae'r canlynol yn "awdurdodau cyhoeddus archwiliadwy" ac yn "awdurdodau cyhoeddus cyfle cyfartal"—

(a) y Cynulliad,

(b) Comisiwn y Cynulliad,

(c) Llywodraeth […] Cymru,

(d) personau sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus ac y mae Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hwy,

(e) personau sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus ac y mae o leiaf hanner cost y swyddogaethau hynny mewn perthynas â Chymru yn cael ei ariannu (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) gan Weinidogion Cymru, ac

(f) personau a sefydlwyd drwy ddeddfiad ac sydd â phŵer i ddyroddi praesept neu ardoll.

Mae'r canlynol yn "awdurdodau cyhoeddus mynediad agored"—

(a) y Cynulliad,

(b) Comisiwn y Cynulliad,

(c) Llywodraeth […] Cymru, a

(d) awdurdodau sydd yn awdurdodau cyhoeddus Cymreig, o fewn ystyr Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36).

Eithriad—

Rheoleiddio'r proffesiwn o fod yn archwilydd.

 

15. Lles cymdeithasol

Lles cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol. Amddiffyn a llesiant plant (gan gynnwys mabwysiadu a maethu) ac oedolion ifanc. Gofal plant, oedolion ifanc, personau hyglwyf a phersonau hŷn, gan gynnwys safonau gofal. Bathodynnau i'w harddangos ar gerbydau modur a ddefnyddir gan bersonau anabl.

Eithriadau—

Cymorth plant.

Cronfeydd ymddiriedolaeth plant, heblaw tanysgrifiadau i gronfeydd o'r fath gan—

a. cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, neu

b. Gweinidogion Cymru.

Credydau treth.

Budd-dal plant a lwfans gwarcheidwad.

Nawdd cymdeithasol.

[Cronfeydd byw'n annibynnol.
Motability.]

Mabwysiadu trawswladol, heblaw asiantaethau mabwysiadu a'u swyddogaethau, a swyddogaethau'r "Awdurdod Canolog" o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithredu yn achos Mabwysiadu Trawswladol.

Y Comisiynydd Plant (a sefydlwyd o dan Ddeddf Plant 2004 (p.31)).

Cyfraith teulu ac achosion teuluol, heblaw—

a. cyngor ynghylch llesiant i'r llysoedd, cynrychiolaeth a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arall i blant sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru a'u teuluoedd, a

b. swyddogion achosion teuluol Cymru.

 

16. Chwaraeon a hamdden

Cyfleusterau chwaraeon a hamdden.

Eithriad—

Betio, hapchwarae a loterïau.

 

16A. Trethiant

Trethi datganoledig (fel y'u diffinir yn adran 116A(4)).]

 

17. Twristiaeth

Twristiaeth.

 

18. Cynllunio gwlad a thref

Cynllunio gwlad a thref gan gynnwys adeiladau rhestredig [ac ardaloedd cadwraeth]. Meysydd carafannau. Cynllunio gofodol. Gweithfeydd mwynol. Datblygu trefol. Trefi newydd. Diogelu harddwch gweledol.

Eithriad—

Cydsyniadau datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

 

19. Dwr ac amddiffyn rhag llifogydd

Cyflenwi dŵr, rheoli adnoddau dŵr (gan gynnwys cronfeydd dŵr), ansawdd dŵr a chynrychioli cwsmeriaid gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. Rheoli risg llifogydd a diogelu'r arfordir.

Eithriadau—

Penodi a rheoleiddio unrhyw ymgymerwr dŵr nad yw ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Trwyddedu a rheoleiddio unrhyw gyflenwr dŵr trwyddedig o fewn ystyr Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(p.56) heblaw rheoleiddio mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig sy'n defnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

 

20. Y Gymraeg

Y Gymraeg.

Eithriad—

Y defnydd o’r iaith Gymraeg mewn llysoedd

 

Atodlen 7: Deddfau Cynulliad: Rhan 2 - Eithriadau Cyffredinol

Swyddogaethau Gweinidogion y Goron
1

(1) Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad ddileu neu addasu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyn cychwyn sydd gan Weinidog y Goron, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu unrhyw un neu ragor o'r swyddogaethau hynny.

(2) Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad roi na gosod unrhyw swyddogaeth ar Weinidog y Goron, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i roi na gosod unrhyw swyddogaeth o'r fath.

(3) Yn yr Atodlen hon ystyr "swyddogaeth cyn cychwyn" yw swyddogaeth sy'n arferadwy gan Weinidog y Goron cyn y diwrnod y daw darpariaethau'r Ddeddf Cynulliad i rym.

Deddfiadau heblaw'r Ddeddf hon.
2

[(1)] Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad wneud addasiadau i unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a restrir yn y Tabl isod na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau i unrhyw un neu ragor ohonynt—

Deddfiad Darpariaethau a ddiogelir rhag eu haddasu
Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) Y Ddeddf gyfan
Deddf Diogelu Data 1998 (p. 29) Y Ddeddf gyfan
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) Adrannau 144(7), 145, 145A a 146A(1)
Deddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42) Y Ddeddf gyfan
Y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (p. 36) Y Ddeddf gyfan
Y Ddeddf gyfan Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005 (O.S. 2005/1505) Y set gyfan o Reoliadau
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (anaw 3) Adrannau 2(1) i (3), 3(2) i (4), 6(2) i (3) ac adran 8(1) i’r graddau y mae’r adran honno yn ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei swyddogaethau yn rhydd o gyfarwyddyd neu reolaeth y Cynulliad neu Lywodraeth […] Cymru.]

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth i wneud addasiadau, nac i roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau, i adran 31(6) o Ddeddf Diogelu Data 1998, fel ei bod yn gymwys i gwynion o dan ddeddfiad sy'n ymwneud â darparu iawndal am esgeulustra mewn cysylltiad â diagnosis o afiechyd neu â gofal neu driniaeth unrhyw glaf (yng Nghymru neu fan arall) fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

(2A) Nid yw is-baragraff (1), i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas ag adrannau 2(1) i (3), 3(2) i (4), 6(2) i (3) ac 8(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddi.

(2B) Ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2C), ni chaniateir i ddarpariaeth y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddi addasu adran 8(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu'r cyfryw adran.

(2C) Nid yw is-baragraff (2B) yn rhwystro rhag rhoi swyddogaethau i bwyllgor o'r Cynulliad—

(a) nad yw'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r personau canlynol—

(i) Prif Weinidog Cymru neu unrhyw berson sydd wedi'i ddynodi i arfer swyddogaethau Prif Weinidog Cymru,

(ii) Gweinidog Cymru a benodwyd o dan adran 48,

(iii) y Cwnsler Cyffredinol neu unrhyw berson sydd wedi'i ddynodi i arfer swyddogaethau'r Cwnsler Cyffredinol, neu

(iv) Dirprwy Weinidog Cymru, a

(b) nad yw'n cael ei gadeirio gan aelod Cynulliad sy'n aelod o grŵp gwleidyddol â rôl gweithrediaeth.]

[(3) Nid yw is-baragraff (1), i'r graddau y mae'n gymwys mewn perthynas ag adrannau 145, 145A ac 146A(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn gymwys i ddarpariaeth y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddi.

(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad—

(a) sydd yn ddarpariaeth sy'n ymwneud â goruchwylio neu arolygu'r Archwilydd Cyffredinol neu'r modd yr arferir swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol,

(b) sydd yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaeth sy'n dod o fewn paragraff (a) neu sydd fel arall yn briodol ar gyfer gwneud darpariaeth o'r fath yn effeithiol, neu

(c) sydd fel arall yn atodol neu'n ganlyniadol i ddarpariaeth o'r fath.]

 

3

Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad wneud addasiadau i unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau i unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol heblaw'r Ddeddf hon sy'n ei gwneud yn ofynnol i symiau, sy'n ofynnol ar gyfer ad-dalu symiau a fenthycir gan Weinidogion Cymru, neu ar gyfer talu llog ar symiau a fenthycir gan Weinidogion Cymru, gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru.

4

Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad wneud addasiadau i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol [neu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol] na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau i unrhyw un neu ragor o'r swyddogaethau hynny.

4A.

Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad—
(a) dileu neu addasu unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu swyddogaeth o'r fath, neu
(b) rhoi neu osod unrhyw swyddogaeth ar Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i roi neu osod swyddogaeth o'r fath.]

Y Ddeddf hon

5

(1) Ni chaniateir i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad wneud addasiadau i ddarpariaethau a gynhwysir yn y Ddeddf hon na rhoi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau i'r darpariaethau hynny.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i'r darpariaethau a ganlyn—

(a) [ adrannau 20, 22, 24, 35(1), 36(1) i (5) a (7) i (11), 53, 54, 78, 79, 120(2), 125 i 128, 146, 147, 148 ac 156(2) i (5) ] ;

[ (aa) adran 119 i'r graddau y mae'n ymwneud â thaliadau a amcangyfrifwyd ar gyfer blwyddyn ariannol i Gronfa Gyfunol Cymru neu i Weinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol;]

(b) paragraff 8(3) o Atodlen 2 [ ; ]

[ (c) unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 8 […] .

(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth—

(a) sy'n gwneud addasiadau i gymaint rhan o unrhyw ddeddfiad a addasir gan y Ddeddf hon, neu

(b) sy'n diddymu cymaint rhan o unrhyw ddarpariaeth yn Ddeddf hon sy'n diwygio unrhyw ddeddfiad, os yw'r ddarpariaeth yn peidio â bod yn effeithiol o ganlyniad i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad.

[(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â darpariaeth y mae paragraff 2(4) yn gymwys iddi.

[ (4A) Nid yw is-baragraff (1), i'r graddau y mae'n gymwys i ddarpariaeth yn Rhan 5 neu adran 159, yn gymwys i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad—

(a) os yw'r ddarpariaeth yn atodol neu'n ganlyniadol i ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad sy'n ymwneud â gweithdrefnau cyllidebol neu drethi datganoledig, a

(b) os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth.

(4B) Yn is-baragraff (4A), mae i "gweithdrefnau cyllidebol" yr un ystyr ag ym mharagraff 13 o Ran 1 o'r Atodlen hon. ]

(5)-(6) […]]

 

Atodlen 7: Deddfau Cynulliad: Rhan 3 - Eithriadau i Rhan 2


Swyddogaethau Gweinidogion y Goron
6

(1) Nid yw Rhan 2 yn rhwystro darpariaeth mewn Deddf Cynulliad rhag dileu neu addasu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyn cychwyn Gweinidogion y Goron, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu unrhyw un neu ragor o'r swyddogaethau hynny—

(a) os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth, neu

(b) os yw'r ddarpariaeth yn atodol neu'n ganlyniadol i ddarpariaeth arall yn y Ddeddf Cynulliad.

(2) Nid yw Rhan 2 yn rhwystro darpariaeth mewn Deddf Cynulliad rhag rhoi neu osod unrhyw swyddogaeth ar un neu ragor o Weinidogion y Goron, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i roi neu osod unrhyw swyddogaeth o'r fath os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth.

Y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol
7

Nid yw Rhan 2 yn rhwystro darpariaeth mewn Deddf Cynulliad rhag addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol [neu'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol] neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i addasu'r deddfiad hwnnw os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
7A

(1) Nid yw Rhan 2 yn rhwystro darpariaeth mewn Deddf Cynulliad rhag—

(a) dileu neu addasu unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i ddileu neu addasu unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu

(b) rhoi neu osod unrhyw swyddogaeth ar Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i roi neu osod unrhyw swyddogaeth o'r fath,
os bodlonir yr amodau a ganlyn.

(2) Yr amodau yw—

(a) bod y swyddogaeth yn ymwneud â threth ddatganoledig, a

(b) bod y Trysorlys yn cydsynio i'r ddarpariaeth.]

Ailddatgan
8

Nid yw Rhan 2 yn rhwystro Deddf Cynulliad rhag—

(a) ailddatgan y gyfraith (neu ei hailddatgan gyda'r cyfryw addasiadau nas rhwystrir gan y Rhan honno), neu

(b) diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad a ddaeth i ben, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud hynny.

Is-ddeddfwriaeth
9

Nid yw Rhan 2 yn rhwystro Deddf Cynulliad rhag gwneud addasiadau i ddeddfiad, neu roi pŵer drwy is-ddeddfwriaeth i wneud addasiadau i ddeddfiad, ar gyfer unrhyw un neu ragor o'r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o'r dibenion a ganlyn—

(a) gwneud darpariaeth wahanol am y ddogfen y mae pŵer i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth i'w arfer drwyddi,

(b) gwneud darpariaeth (neu beidio â gwneud darpariaeth) ar gyfer y weithdrefn, o ran y Cynulliad, y mae deddfwriaeth a wneir drwy arfer y cyfryw bŵer (neu'r offeryn neu ddogfen arall y mae i'w gael ynddi) i fod yn ddarostyngedig iddi, ac

(c) cymhwyso unrhyw ddeddfiad a geir mewn Deddf Cynulliad neu a wneir o dan Ddeddf Cynulliad sy'n ymwneud â'r dogfennau y caniateir arfer y cyfryw bwerau drwyddynt.