Mae rhai mathau o is-ddeddfwriaeth, megis Gorchmynion Cychwyn, nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefnau ffurfiol ar wahân i’r ffaith bod rhaid iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y “pwyllgor cyfrifol” arfer ei ddisgresiwn ynghylch a yw'n gwneud gwaith craffu ar is-ddeddfwriaeth o'r fath.
O 1 Ionawr 2026, rhaid gosod pob offeryn statudol Cymreig gerbron y Senedd, hyd yn oed y rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Os na wneir hyn cyn i'r offeryn ddod i rym, rhaid darparu llythyr esboniad yn nodi pam i'r Llywydd o dan adran 37F(4) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
| Teitl Offeryn Statudol | Dyddiad Gosod |
|---|---|
| SL(7)009 - Gorchymyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Estyn y Diffiniad o Glefyd) (Cymru) 2026 | 17 Gorffennaf 2026 |
| SL(7)005 - Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) (Diwygio) 2026 | 25 Mehefin 2026 |
| SL(7)003 - Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2026 (Cychwyn Rhif 1) 2026 | 24 Mehefin 2026 |