Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru yn ddarostyngedig i weithdrefnau penodol a amlinellir yn y ddeddf alluogi. Mae'r gweithdrefnau hyn yn cynnwys:
(i) gweithdrefnau cymeradwyo gwell (a elwir weithiau'n weithdrefnau uwch-gymeradwyo). Gweler er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011;
(ii) y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (sef gweithdrefn gadarnhau'r Senedd o 1 Ionawr 2026). Gweler er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adran 25(2) a (3) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017;
(iii) y weithdrefn negyddol ddrafft (a ddefnyddiwyd cyn 1 Ionawr 2026). Gweler er enghraifft y weithdrefn a nodir yn adran 144ZF(5) i (7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
| Teitl Offeryn Statudol | Gweithdrefn | Dyddiad Gosod |
|---|---|---|