Y cefndir
Daeth Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn gyfraith ar 10 Gorffennaf 2025. Diben datganedig y Ddeddf yw:
- dwyn ynghyd a ffurfioli:
- y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru, a’r
- gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac is-ddeddfwriaeth arall nad yw’n cael ei gwneud drwy offeryn statudol.
- gwella hygyrchedd cyfraith Cymru trwy:
- ddiddymu, diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddarpariaethau a deddfiadau nad ydynt bellach o ddefnydd ymarferol na budd; a
- gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae Deddf 2025 yn diwygio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (“Deddf 2019”) i wneud darpariaeth mewn perthynas â'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig.
Y newidiadau allweddol
Mae Deddf 2019 wedi’i diwygio yn diffinio “offeryn statudol Cymreig” fel a ganlyn:
“Yn is-adran (1), ystyr “is-ddeddfwriaeth Cymru” yw is-ddeddfwriaeth nas gwneir ond gan—
(a) Gweinidogion Cymru, neu
(b) unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).”
Mae'n nodi beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chymeradwyo offerynnau statudol Cymreig, gan gynnwys drwy roi enwau newydd ar gyfer y gwahanol weithdrefnau craffu:
- Y weithdrefn gadarnhaol ddrafft fydd gweithdrefn gymeradwyo y Senedd bellach.
- Y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ fydd gweithdrefn gadarnhau y Senedd bellach.
- Y weithdrefn negyddol fydd gweithdrefn annilysu y Senedd bellach.
Rhaid gosod pob offeryn statudol gerbron y Senedd, hyd yn oed y rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn. Os na wneir hyn cyn i'r offeryn ddod i rym, rhaid darparu llythyr esboniad yn nodi pam i'r Llywydd.
Daeth y newidiadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2026.
Newidiadau eraill
Mae Deddf 2019 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi mai Argraffydd y Brenin sy'n gyfrifol am gyhoeddi Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig. Cyn hynny, nid oedd unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at rôl Argraffydd y Brenin wrth gyhoeddi deddfwriaeth Gymreig (fodd bynnag, yn ymarferol Argraffydd y Brenin oedd yn ymgymryd â'r dyletswyddau hynny).
Mae Deddf 2019 hefyd yn nodi manylion am sut y mae rhaid cyhoeddi offerynnau statudol Cymreig, gan gynnwys sut y mae rhaid rhifo offerynnau statudol.