Dechrau deiseb

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Deisebau yw un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o awgrymu sut y gellir newid rhywbeth. Mae deisebau’n gallu:

  • codi ymwybyddiaeth o fater;
  • arwain at newid polisi Llywodraeth Cymru neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol;
  • cynnig neu ddylanwadu ar gyfraith newydd;
  • annog un o bwyllgorau’r Senedd i gynnal ymchwiliad;
  • arwain at ddadl yn y Senedd neu ddylanwadu ar ddadl a drefnwyd eisoes;
  • annog pwyllgorau neu Aelodau unigol o’r Senedd i gymryd camau pellach eu hunain, er enghraifft drwy ofyn cwestiynau.

Gallwch gyflwyno deiseb drwy ddefnyddio ein system ddeisebau ar-lein, ar bapur, neu gyfuniad o’r ddwy.

Nid yw’r Pwyllgor Deisebau yn derbyn deisebau o wefannau eraill.

Os ydych chi’n ystyried casglu llofnodion ar bapur, dylech gysylltu â ni ymlaen llaw i gael cyngor. Gallwn ddarparu templed hefyd.