Safonau ar gyfer deisebau

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gallwch gyflwyno deiseb ar unrhyw fater mae’r Senedd neu Lywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Rhaid i ddeisebau alw am gamau penodol gan y Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Gall deisebau anghytuno â Llywodraeth Cymru a gallant ofyn iddi newid ei pholisïau. Gall deisebau fod yn feirniadol o’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Rydym yn gwrthod deisebau nad ydynt yn bodloni’r rheolau. Os byddwn ni’n gwrthod eich deiseb, byddwn ni’n dweud wrthych pam. Os yw’n bosibl, byddwn ni’n awgrymu ffyrdd eraill y gallech godi’r mater.

Bydd yn rhaid i ni wrthod eich deiseb:

  • os yw’n galw am yr un cam gweithredu â deiseb sydd eisoes ar agor, neu un a gaewyd gan y Pwyllgor Deisebau lai na blwyddyn ynghynt;
  • os nad yw’n gofyn am gamau clir gan y Senedd neu gan Lywodraeth Cymru;
  • os yw’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano;
    • Mae hynny’n cynnwys: rhywbeth y mae eich cyngor lleol yn gyfrifol amdano (gan gynnwys penderfyniadau cynllunio); rhywbeth y mae Llywodraeth y DU neu Senedd y DU yn gyfrifol amdano; a rhywbeth y mae sefydliad annibynnol wedi’i wneud.
  • os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd, sy’n eithafol neu sy’n herfeiddiol. Mae hyn yn cynnwys rhegfeydd a geiriau sarhaus amlwg, ac unrhyw iaith sy’n dramgwyddol ym marn person rhesymol;
  • os yw’n cynnwys datganiadau ffug neu ddifrïol posibl;
  • os yw’n cyfeirio at achos sy’n weithredol yn llysoedd y DU;
  • os yw’n cynnwys gwybodaeth a waherddir rhag cael ei chyhoeddi gan orchymyn llys neu gorff neu berson sydd â phŵer tebyg;
  • os yw’n cyhuddo unigolyn neu sefydliad y gellir ei adnabod o drosedd;
  • os yw’n cynnwys deunydd a allai fod yn gyfrinachol neu’n sensitif yn fasnachol;
  • os gallai achosi trallod neu golled bersonol;
  • os yw’n enwi swyddogion unigol cyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn uwch-reolwyr;
  • os yw’n cynnwys enwau aelodau o deuluoedd cynrychiolwyr etholedig neu swyddogion cyrff cyhoeddus;
  • os yw’n hysbyseb, yn sbam, neu’n hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth penodol;
  • os yw’n nonsens neu’n jôc;
  • os yw’n ymwneud â mater nad yw’n briodol ymdrin ag ef mewn deiseb
    • Mae hynny’n cynnwys: gohebiaeth am fater personol a deisebau sy’n gofyn am i rywun gael swydd, colli ei swydd neu ymddiswyddo, neu sy’n galw am bleidlais o ddiffyg hyder.

Byddwn yn cyhoeddi testun y deisebau rydym ni’n eu gwrthod, ar yr amod nad ydynt:

  • yn ddifenwol, yn enllibus neu’n anghyfreithlon mewn ffordd arall;
  • yn ymwneud ag achos sy’n mynd rhagddo yn llysoedd y DU neu am rywbeth y mae llys wedi cyhoeddi gwaharddeb yn ei gylch;
  • yn sarhaus neu’n eithafol;
  • yn gyfrinachol neu’n debygol o achosi trallod personol; neu
  • yn jôc, yn hysbyseb neu’n nonsens.

Darllenwch y rheolau llawn ynghylch y broses ddeisebau.