Canllawiau ar gywiro trawsgrifiadau

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/01/2021   |   Amser darllen munud

Mae trawsgrifiadau cyfarfodydd pwyllgor a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi yn gofnodion gair am air yn eu hanfod. Hynny yw, mae’r trawsgrifiadau yn gofnodion gair am air o’r hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod, wedi’u golygu yn ysgafn er mwyn delio â phroblemau megis camgymeriadau gramadegol, llithriadau tafod a chamgymeriadau amlwg.

Ni ddylid cywiro unrhyw beth heblaw am:

  • camgymeriadau a wnaed yn y broses drawsgrifio, megis enghreifftiau o gamglywed, gamsillafu neu wallau teipio;

  • gwallau wrth gyfeirio at ffeithiau, megis dyddiadau neu ffigurau, nad ydynt yn ganolog i’r drafodaeth ac nad ydynt felly, o’u cywiro, yn newid ystyr unrhyw gyfraniad.

Dylech wneud cywiriadau i’ch cyfraniadau eich hunain yn unig.

Bydd staff y Gwasanaeth Cofnodi a Chyfieithu yn penderfynu a oes modd derbyn cywiriadau arfaethedig ai peidio. Nid yw mân newidiadau i arddull na geiriad unrhyw gyfraniad er mwyn gwella’r mynegiant yn dderbyniol.

Dylid nodi’r newidiadau mewn rhestr gyda rhif y paragraff perthnasol.

Os oes angen cywiro ffeithiau sydd yn newid synnwyr cyffredinol cyfraniad yn sylweddol, neu os ydych am egluro pwynt ymhellach, dylid dwyn hyn i’n sylw ar wahân, gan y gallant, os oes angen, gael eu cynnwys fel troednodyn yn y trawsgrifiad. Dylech ddarparu geiriad i ni ei gynnwys yn y troednodyn.

Dylid dychwelyd cywiriadau erbyn y dyddiad a nodir. Os na chedwir at yr amserlen ar gyfer cywiriadau, caiff fersiwn derfynol y trawsgrifiad ei chyhoeddi heb y cywiriadau.

Chwiliwch drawsgrifiadau blaenorol