Ar ôl i bwyllgor gytuno ar adroddiad ar ei ymchwiliad, fel arfer bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, a bydd ar gael ar dudalennau gwe y pwyllgor.
Fel arfer, caiff yr adroddiad ei anfon yn electronig at Lywodraeth Cymru a phawb a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn ei ymchwiliad.
Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu ymateb ysgrifenedig, gan gynnwys atebion i unrhyw argymhellion a wnaed gan y pwyllgor. Mae hyn fel arfer yn digwydd o fewn chwe wythnos o adroddiad yn cael ei gyhoeddi gyntaf.
Gall pwyllgor hefyd ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar unrhyw adroddiad y mae wedi'i gynhyrchu. Mae trafod adroddiad yn y Cyfarfod Llawn yn caniatáu i Aelodau o'r Senedd o bob plaid wleidyddol roi sylwadau ar ymchwiliad y pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.