Cynnwys
— Trosolwg
— Sut i baratoi eich tystiolaeth
Argymhellion ar gyfer paratoi eich tystiolaeth ysgrifenedig
Dyma ambell argymhelliad i’ch helpu i baratoi eich tystiolaeth
- Cael cyd-destun: Dysgwch fwy am yr hyn y mae pwyllgorau yn ei wneud, a darllenwch dystiolaeth ysgrifenedig arall i gael syniad o’r arddull a’r cynnwys.
- Gwybodaeth hanfodol: Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, dywedwch wrthym a ydych yn ymateb mewn capasiti personol neu broffesiynol, ac a ydych yn cynrychioli sefydliad. Eglurwch yn fyr pam rydych yn anfon tystiolaeth ac anfonwch eich tystiolaeth erbyn y dyddiad terfyn.
- Eich tystiolaeth: Cadwch eich tystiolaeth yn berthnasol i’r pwnc, ond peidiwch â theimlo bod angen i chi roi sylw i bob mater. Nodwch pa gamau ddylai’r Pwyllgor eu cymryd i wella’r sefyllfa yn eich barn chi. Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich safbwyntiau, a pheidiwch â bod yn anonest yn eich tystiolaeth.
- Strwythur ac arddull: Ysgrifennwch mewn iaith blaen, dylech gynnwys crynodeb ar y dechrau, a blaenoriaethwch negeseuon allweddol yr hoffech i’r pwyllgor wybod amdanynt. Cadwch eich tystiolaeth yn fyr (o dan 3,000 o eiriau yn ddelfrydol), rhowch lincs i ddeunydd perthnasol a strwythurwch y ddogfen mewn paragraffau.