Canllaw i dystiolaeth ysgrifenedig

Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/03/2025

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Sut i baratoi eich tystiolaeth

—  Cyflwyno eich tystiolaeth

—  Cwestiynau cyffredin

 


Cwestiynau cyffredin

 

Beth fydd yn digwydd i fy nhystiolaeth?

Bydd y pwyllgor yn adolygu eich tystiolaeth ac yn ei defnyddio i lywio ei waith. Efallai y bydd eich enw a’ch tystiolaeth yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at fater mewn adroddiad neu i wneud argymhelliad i Lywodraeth Cymru, er enghraifft.

Bydd y dystiolaeth yn cael ei chyhoeddi ar dudalennau gwe'r pwyllgor, ynghyd â'ch enw a/neu enw'r sefydliad.

Mae tystiolaeth ysgrifenedig hefyd yn helpu’r pwyllgor i benderfynu pwy i’w wahodd i roi tystiolaeth lafar. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dystiolaeth lafar yn ein canllaw i dystion

 

Beth os nad wyf am i'm henw neu fy nhystiolaeth gael eu cyhoeddi?

Mae pwyllgorau fel arfer yn cyhoeddi'r holl dystiolaeth a gânt. Mae hyn yn darparu tryloywder ynghylch sut mae pwyllgorau'n gwneud penderfyniad.

Gallwch ofyn ynghylch bod eich tystiolaeth yn ddienw (ac felly, y caiff ei chyhoeddi ond heb eich enw), neu’n gyfrinachol (ac felly, y caiff eich tystiolaeth ei darllen ond nid ei chyhoeddi).

 

Pam efallai na fyddech chi'n defnyddio fy nhystiolaeth?

Ni fydd pwyllgor yn ystyried tystiolaeth nad yw'n berthnasol i ymchwiliad. Sicrhewch eich bod yn dilyn y cylch gorchwyl yn eich tystiolaeth.

Ni all pwyllgorau eich helpu gyda mater neu gŵyn benodol. Cysylltwch â’ch Aelod lleol o’r Senedd os hoffech chi godi rhywbeth gyda nhw.

Mae'n annhebygol iawn y bydd pwyllgorau'n cyhoeddi tystiolaeth sy'n ddifenwol (h.y. yn dweud rhywbeth anwir a allai niweidio enw da person) neu'n sôn am achosion llys sydd ar y gweill neu ar fin digwydd.

 

Sut y caiff fy nata personol eu defnyddio?

Bydd pwyllgorau’n trin data personol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Gallwch ddarganfod mwy am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn. Mae’r hysbysiad hwn yn destun adolygiad cyfnodol – bydd newidiadau’n cael eu cyhoeddi drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Senedd, felly dylech wirio’r rhain o bryd i’w gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol, neu am sut i arfer eich hawliau, dylech gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data.

Mae’r Senedd yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth ac efallai y bydd angen datgelu’r holl wybodaeth a ddarperir gennych, neu ran ohoni, hyd yn oed os nad yw eisoes wedi’i chyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y bydd y Senedd yn gwneud hynny.

 

A oes unrhyw beth arall y mae angen i mi ei wybod?

Os ydych o dan 13 mlwydd oed, mae angen caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn y gall pwyllgor dderbyn eich tystiolaeth. Gellir darparu hyn drwy e-bost.

Os ydych o dan 18 mlwydd oed, ni chaiff eich enw ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth.

Efallai y byddwch yn cynnwys gwybodaeth yn eich tystiolaeth y gellid ei defnyddio i adnabod trydydd parti, fel rhiant, priod neu berthynas. Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi gadarnhau bod gennych eu cytundeb i rannu gwybodaeth amdanynt a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi. Yn dibynnu ar natur y dystiolaeth (er enghraifft, os yw'n ymwneud â chyflwr meddygol), efallai y bydd angen i ni ofyn i chi ddarparu prawf bod gennych eu cytundeb. Bydd tîm y pwyllgor yn cysylltu â chi i drafod hyn, os oes angen.