Wedi'i gyhoeddi 15 Mehefin 2026
Pwy ynyn ni
Comisiwn y Senedd yw rheolwr data'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Beth yw pwyllgorau'r Senedd?
Mae Pwyllgorau yn y Senedd yn gwneud llawer o wahanol bethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dal Gweinidogion i gyfrif, ac archwilio deddfwriaeth arfaethedig. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymwneud â defnyddio unrhyw wybodaeth rydych yn ei chyflwyno mewn perthynas â gwaith pwyllgorau'r Senedd.
Yn yr hysbysiad hwn, pan ddywedwn “prosesu” rydym yn golygu unrhyw ddefnydd a wnawn o’ch data personol gan gynnwys eu casglu, eu cadw, eu cyhoeddi a’u dileu. Drwy “gwybodaeth” rydym yn golygu eich data personol.
Beth fyddwn yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth?
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan staff sy'n gweithio i Gomisiwn y Senedd. Wrth wneud hynny, byddwn yn defnyddio’r egwyddorion hyn:
- Byddwn bob amser yn dweud wrthych sut y bydd y wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei defnyddio;
- Ni fyddwn byth yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd parti heb ofyn am eich caniatâd yn gyntaf, oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.
Mae manylion penodol ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth wedi'u nodi isod.
Cyfraniadau ysgrifenedig a gohebiaeth
Bydd pob cyfraniad ysgrifenedig (h.y. tystiolaeth ysgrifenedig, cyflwyniadau, ymatebion a gohebiaeth) yn cael ei storio'n ddiogel ar ein systemau TGCh sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial Microsoft i brosesu eich gwybodaeth. Mae unrhyw drosglwyddiad rhyngwladol o wybodaeth gan Microsoft wedi'i gwmpasu gan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn sicrhau bod eich data personol yn cael eu diogelu. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Microsoft.
Os byddwch yn cyflwyno cyfraniad ysgrifenedig ar gopi caled, caiff y copi caled ei sganio i'n systemau a'i ddinistrio (o fewn chwe mis) a chaiff ei gadw ar ffurf ddigidol. Ar wahân i'r fersiwn ddigidol a gyhoeddir, ni fydd copïau o'ch cyfraniad yn cael eu cadw y tu hwnt i ddiwedd y Senedd bresennol. Yn achos cyfraniad sydd wedi'i olygu, bydd y fersiwn heb ei golygu a ystyriwyd gan y pwyllgor yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ond ni chaiff ei chyhoeddi (gweler isod am ragor o wybodaeth am ein dull o olygu cyfraniadau).
Efallai y byddwn yn defnyddio Microsoft Forms neu feddalwedd arall Microsoft i gasglu cyfraniadau ysgrifenedig.
Gellir rhannu cyfraniadau gyda thrydydd partïon at ddibenion dadansoddi thematig, er enghraifft os oes nifer sylweddol o gyfraniadau i'w dadansoddi.
Cyhoeddi cyfraniadau ysgrifenedig a gohebiaeth
Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi cyfraniadau ysgrifenedig a gohebiaeth ar ein gwefan, yn amodol ar y darpariaethau a ganlyn.
Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â chyhoeddi cyfraniadau ysgrifenedig pan fyddwn wedi cael nifer fawr iawn o ymatebion neu os byddwn wedi cael nifer o gyfraniadau sy'n dweud pethau tebyg neu'r un peth. Yn yr achos hwnnw, efallai y byddwn ond yn cyhoeddi rhestr o enwau'r bobl sydd wedi anfon eu safbwyntiau, yn amodol ar y darpariaethau a ganlyn mewn perthynas â chyhoeddi enwau unigolion.
Nid oes rhaid i ni dderbyn unrhyw gyfraniad ysgrifenedig, ac nid oes rhaid i ni gyhoeddi tystiolaeth yn llawn nac yn rhannol, hyd yn oed os byddwn wedi ei derbyn. Nid oes rhaid i ni gyhoeddi'r holl ohebiaeth nac unrhyw ran ohoni ar ein gwefan. Efallai y byddwn yn gofyn i chi olygu eich cyfraniad os yw'n cynnwys deunydd sy'n dramgwyddus neu'n amhriodol.
Bydd unrhyw ohebiaeth neu ddeunydd a rennir gyda chadeirydd pwyllgor, yn ei rôl fel cadeirydd, yn cael ei ystyried yn ohebiaeth â phwyllgor a gellir ei gyhoeddi, a'i rannu ag Aelodau eraill y pwyllgor a staff Comisiwn y Senedd.
Efallai y byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os byddwch yn dewis eu cyflwyno ac yn eu cyhoeddi yn amodol ar y darpariaethau yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Efallai y byddwn yn cynnwys rhannau o gyfraniadau ysgrifenedig a gohebiaeth mewn briffiau, adroddiadau, neu ddogfennau eraill a ddefnyddir neu a gynhyrchir gan y pwyllgor wrth wneud ei waith. Efallai y byddwn yn cyhoeddi rhannau o gyfraniadau ysgrifenedig ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan bwyllgorau’r Senedd. Unwaith y bydd y wybodaeth yn y parth cyhoeddus, gall trydydd partïon, fel y cyfryngau neu ddarlledwyr, ailddefnyddio'r rhannau cyhoeddedig hyn o gyfraniadau at eu dibenion eu hunain.
Os cyhoeddir cyfraniad neu ran o gyfraniad ar ein gwefan, bydd yn parhau'n gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd ar gael drwy beiriannau chwilio ar y rhyngrwyd.
Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw.
Efallai y byddwn yn penderfynu peidio â chyhoeddi enwau unigolion pan fyddwn wedi cael llawer iawn o gyfraniadau.
Os ydych chi wedi ymateb yn eich rôl broffesiynol, bydd y fersiwn o’ch cyfraniad a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd/rôl os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn cytuno i wneud cyfraniadau gan unigolion sydd wedi cyfrannu mewn rhinwedd broffesiynol yn ddienw. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd gan aelodau'r pwyllgor, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd fynediad at gynnwys llawn eich cyfraniad.
Ffurf eich cyfraniad
Mae'r Senedd yn gweithio i fod yn agored ac yn hygyrch. Os byddai'n well gennych gyflwyno eich cyfraniad ar ffurf arall ar wahân i gyflwyniad ysgrifenedig, efallai y byddwn yn derbyn cyfraniadau a ddarperir ar ffurf ffeiliau fideo neu sain. Gall hyn gynnwys cyfraniadau a gyflwynir mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu iaith ar wahân i’r Gymraeg neu’r Saesneg. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i wneud hynny, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor perthnasol y mae eu manylion cyswllt wedi'u cyhoeddi fel rhan o bob galwad unigol am gyfraniadau.
Os darperir cyflwyniad ar ffurf ffeil sain neu fideo, neu mewn iaith ar wahân i’r Gymraeg neu’r Saesneg, efallai y byddwn yn creu trawsgrifiad/cyfieithiad ysgrifenedig ohono i gynorthwyo'r Pwyllgor i’w ystyried. Bydd y trawsgrifiad/cyfieithiad hwn ynghyd â'ch cyflwyniad gwreiddiol yn cael eu trin a'u cyhoeddi gyda'i gilydd fel un cyflwyniad yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, oni ofynnir yn wahanol. Byddwn yn cadw eich cynnwys fideo neu sain a'r cyfieithiad/trawsgrifiad ysgrifenedig mewn fformat electronig diogel.
Efallai y bydd y Senedd yn rhannu'r cynnwys a gyflwynir gennych gyda'n darparwr gwasanaeth cyfieithu neu drawsgrifio trydydd parti (yn ôl yr angen) er mwyn cael cyfieithiad neu drawsgrifiad o'ch cyfraniad.
Derbyn a chyhoeddi cyfraniadau gan bobl ifanc
Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae angen caniatâd arnom gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc.
Ni fyddwn fel arfer yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau, ond gallwn wneud hynny os yw'r unigolyn hwnnw wedi ymateb mewn rôl broffesiynol.
Cyfraniadau nad ydynt yn addas i'w datgelu'n gyhoeddus
Os byddwch yn darparu unrhyw ddeunydd yn eich cyfraniad yr ydych o'r farn nad yw'n addas ei datgelu i'r cyhoedd, gofynnwn ichi nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a'r rhesymau pam. Gallwch wneud hyn drwy e-bost pan fyddwch yn cyflwyno eich cyfraniad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o ddeunydd sy'n addas i'w gyflwyno, cysylltwch â chlerc y pwyllgor perthnasol yn uniongyrchol.
Gall unigolion sy'n cyfrannu'n bersonol neu'n broffesiynol wneud cais bod eu holl dystiolaeth neu eu gohebiaeth yn cael eu trin yn gyfrinachol ac na ddylent gael eu cyhoeddi. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi rhesymau dros eich cais. Os na allwch wneud hynny, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich tystiolaeth. Os cytunir i’r cais, ni fydd y cyfraniad yn cael ei gyhoeddi ac ni fydd unrhyw ran ohono yn cael ei defnyddio mewn unrhyw ddogfen bwyllgor arall, megis adroddiad. Os na ellir cytuno i’r cais, efallai na fyddwn yn gallu derbyn eich cyfraniad.
Bydd cyfraniadau cyfrinachol yn cael eu gweld gan staff perthnasol Comisiwn y Senedd, Aelodau'r pwyllgor (gan gynnwys unrhyw ddirprwyon) ac, o bosibl, staff cymorth Aelodau perthnasol. Cedwir cyfraniadau cyfrinachol am gyfnod amhenodol gyda mynediad cyfyngedig ar ein rhwydwaith TGCh diogel hyd nes y cânt eu harchifo gyda'r Llyfrgell Genedlaethol neu eu dinistrio fel rhan o archwiliad.
Cyfeiriadau at drydydd partïon
Efallai y byddwn yn golygu eich cyfraniad, neu’n gofyn i chi ei newid, i ddileu data personol o'r testun os byddwn o'r farn ygellid eu defnyddio i adnabod unigolion sy’n byw nad ydynt wedi rhoi eu cytundeb yn benodol i wybodaeth amdanynt fod ar gael i’r cyhoedd.
Os na fydd modd golygu cyfraniad i ddileu gwybodaeth sy'n ymwneud â thrydydd partïon, efallai y bydd fersiwn wedi'i golygu o'ch cyfraniad yn cael ei chyhoeddi. Gall aelodau’r pwyllgor (gan gynnwys unrhyw ddirprwyon) a staff cymorth perthnasol yr Aelodau gael mynediad at gynnwys llawn eich cyfraniad, hyd yn oed os nad yw wedi’i gyhoeddi’n llawn. Efallai y byddwn yn penderfynu y dylai eich cyflwyniad fod yn ddienw os yw nifer yr adolygiadau sydd angen eu gwneud i'r testun yn ei gwneud yn anodd ei ddeall neu ei ddarllen.
Cadw a defnyddio eich manylion cyswllt
Os ydych wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu ohebiaeth mewn rhinwedd bersonol, byddwn yn cadw'ch manylion cyswllt ar ein rhwydwaith TGCh diogel fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ystyriaeth y Senedd o bwnc yr ydych wedi cyfrannu ato, a materion cysylltiedig. Ni fyddwn yn cadw eich manylion cyswllt am fwy na chwe mis ar ôl diwedd y Seithfed Senedd (a fydd yn dod i ben yn 2030).
Os nad ydych am inni gyfathrebu â chi, dylech roi gwybod hynny ar yr adeg y gwnewch eich cyfraniad.
Os ydych chi wedi cyflwyno deunydd mewn rhinwedd broffesiynol neu ar ran sefydliad, efallai y byddwn yn cadw eich manylion cyswllt proffesiynol ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu eich sefydliad i'ch gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ar gyfer ymholiadau pwyllgorau eraill y Senedd yn y dyfodol. Byddwn yn cadw gwybodaeth gyswllt o'r fath mewn cronfa ddata gyda mynediad cyfyngedig a gedwir ar ein rhwydwaith TGCh diogel.
Efallai y byddwn yn casglu ac yn storio manylion cyswllt sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer unigolion proffesiynol, sefydliadau, neu unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau, mewn cronfa ddata â mynediad cyfyngedig a gedwir ar ein rhwydwaith TGCh diogel. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wahodd sefydliadau neu unigolion o'r fath i gyfrannu at waith pwyllgorau'r Senedd.
Deisebau'r Senedd
Mae gwefan Deisebau’r Senedd yn caniatáu i unigolion gychwyn a llofnodi deisebau i godi materion gyda’r Senedd. Mae angen i ni gasglu, prosesu a storio rhai data personol i'ch galluogi i wneud hyn. Mae hysbysiad preifatrwydd ar wahân wedi'i baratoi ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae cyfraniadau ysgrifenedig a wneir i'r Pwyllgor Deisebau wedi'u cynnwys yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Ymddangos gerbron Pwyllgor
Efallai y bydd pwyllgorau yn cynnal cyfarfodydd ffurfiol a digwyddiadau eraill i gasglu cyfraniadau at eu gwaith. Gall cyfarfodydd neu ddigwyddiadau gael eu cynnal wyneb yn wyneb neu o bell.
Mae cyfarfodydd a digwyddiadau o bell yn cael eu hwyluso drwy feddalwedd trydydd parti fel Microsoft Teams a Zoom. Bydd gwybodaeth ynghylch pa lwyfan y byddwn yn ei defnyddio ar gyfer pob digwyddiad penodol yn cael ei hegluro wrth rannu gwybodaeth am y cyfarfod neu ddigwyddiad.
Efallai y bydd Microsoft a Zoom yn defnyddio ac yn storio data personol fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, a'ch rhif ffôn (mewn rhai achosion), eich cyfeiriad IP, a manylion am eich dyfais.
Mae Zoom a Microsoft yn sicrhau bod trosglwyddiadau data rhyngwladol yn cydymffurfio â chymalau cytundebol safonol er mwyn sicrhau bod defnydd o ddata personol yn cydymffurfio â'r cyfreithiau perthnasol. I gael rhagor o fanylion, darllenwch bolisi preifatrwydd Microsoft a pholisi preifatrwydd Zoom.
Er mwyn lleihau faint o ddata sy'n cael eu rhannu gyda Zoom, ni ofynnir i gyfranogwyr cyfarfodydd gofrestru eu manylion gyda Zoom. Yn lle hynny, bydd cyfranogwyr yn cael linc cyfarfod Zoom, rhif ID cyfarfod a chyfrinair ymlaen llaw.
Sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol mewn cyfarfodydd pwyllgor
Cyhoeddir recordiadau clyweledol a thrawsgrifiadau o sesiynau tystiolaeth ffurfiol ar wefan y Senedd. Bydd y recordiadau a'r trawsgrifiadau hyn yn parhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol. Gall trydydd partïon ddefnyddio recordiadau clyweledol sydd wedi’u cyhoeddi neu drawsgrifiadau o gyfarfodydd at eu dibenion eu hunain. Efallai y byddwn yn defnyddio rhannau o recordiadau clyweledol ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan bwyllgorau'r Senedd.
Byddwn yn casglu ac yn cadw manylion cyswllt unigolion sydd wedi cytuno i ymddangos gerbron pwyllgor at ddibenion sy’n ymwneud â'r trefniadau gweinyddol ar gyfer y cyfarfod perthnasol.
Efallai y byddwn, ar adegau, yn casglu ac yn cadw gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig unigolion at ddibenion gweinyddol. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn man gwarchodedig ar system TG y Senedd. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei dileu o fewn mis ar ôl y cyfarfod perthnasol fan bellaf.
Trafodaethau anffurfiol a digwyddiadau eraill
Efallai y bydd pwyllgorau yn trefnu digwyddiadau i gasglu cyfraniadau at eu gwaith.
Cyhoeddi a chadw cyfraniadau
Ni fydd digwyddiadau fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus nac yn cael eu recordio. Os penderfynir y dylai'r digwyddiad fod ar agor i'r cyhoedd neu y dylid cynhyrchu trawsgrifiad o drafodaethau neu y dylid recordio'r digwyddiad i'w gyhoeddi, byddwn yn rhoi gwybod i gyfranogwyr ymlaen llaw.
Recordiadau ffotograffig a recordiadau eraill o ddigwyddiadau
Efallai y byddwn yn tynnu lluniau ac yn recordio fideos neu sain yn y digwyddiadau hyn. Os nad ydych am ymddangos mewn cyfryngau o'r fath, rhowch wybod i ni ymlaen llaw. Efallai y bydd ffotograffau, fideos neu recordiadau sain a wneir mewn digwyddiadau gael eu cyhoeddi ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol, neu mewn deunydd printiedig a/neu ddigidol.
Gallai ffotograffau, fideos neu recordiadau sain a wneir mewn digwyddiadau pwyllgor gael eu defnyddio heb gyfeirio at gyd-destun y digwyddiad i hyrwyddo gwaith y Senedd ac ymgysylltu â phobl Cymru.
Bydd unrhyw ffotograffau, fideos neu recordiadau sain a wneir mewn digwyddiadau pwyllgor a gyhoeddir ar ein gwefan neu a ddefnyddir ar gyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol.
Ni fydd unrhyw ffotograffau, fideos neu recordiadau sain a wneir mewn digwyddiadau pwyllgor nad ydynt yn cael eu cyhoeddi gan Gomisiwn y Senedd yn cael eu cadw am fwy na chwe mis y tu hwnt i ddiwedd y Seithfed Senedd (a fydd yn dod i ben yn 2030).
Monitro amrywiaeth a chasglu adborth
Mae penderfyniadau ynghylch polisïau a deddfau yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig bod y Senedd yn clywed ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau i helpu Aelodau i graffu ar weithredoedd y llywodraeth a gwneud cyfreithiau. Daw amrywiaeth ar sawl ffurf, felly mae pwyllgorau'r Senedd am glywed gan amrywiaeth o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau, a sefydliadau - yn enwedig y rhai y mae mater sy'n cael ei drafod yn effeithio arnynt.
Rydym yn monitro amrywiaeth tystiolaeth i'n helpu i ddeall a yw hyn yn digwydd. Fel rhan o hyn, efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth am eich enw, rôl (neu rolau) proffesiynol, y sefydliad(au), neu'r sector(au) rydych chi'n eu cynrychioli, a phryd rydych chi'n cyfrannu at waith pwyllgorau, i ddarparu ystadegau at ddibenion monitro ac adrodd, i helpu i nodi unrhyw batrymau, ac i sicrhau bod ein polisïau a'n gweithdrefnau'n gwella, yn gynhwysol ac yn effeithiol.
Cynhelir gwaith monitro gweithredol o amrywiaeth y dystiolaeth a gawn ac adborth ar y broses o roi tystiolaeth drwy arolwg monitro amrywiaeth.
At ddibenion monitro amrywiaeth, gallwn goladu a dadansoddi'r wybodaeth hon naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o adroddiadau. Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â'r wybodaeth hon mewn ffordd y gellir ei defnyddio i adnabod unigolion. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi ystadegau sy'n dangos nifer y gweithiau y mae unigolyn wedi rhoi tystiolaeth lafar, neu pa sefydliadau sydd wedi rhoi tystiolaeth amlaf.
Bydd staff Comisiwn y Senedd yn cael mynediad at yr arolwg ac yn ei brosesu. Bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu ystadegau a dadansoddiadau y gellir eu rhannu â staff Comisiwn y Senedd, Aelodau o'r Senedd, staff cymorth perthnasol i Aelodau, a gellir eu cyhoeddi hefyd. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial Microsoft neu blatfform trydydd parti arall i brosesu eich gwybodaeth.
Bydd copïau o ymatebion yr arolwg yn cael ei gadw ar ein systemau TGCh am hyd at chwe mis ar ôl diwedd y Senedd pan gyflwynwyd yr ymateb. Bydd data ystadegol a dadansoddiad a grëir o ymatebion yr arolwg at ddefnydd mewnol neu i'w cyhoeddi ar ein gwefan yn gyfan gwbl neu'n rhannol naill ai fel rhan o set ddata neu mewn adroddiad yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.
Bydd ymatebion i'r arolwg gan bobl sy'n nodi eu bod dan 16 oed yn cael eu dileu (neu eu gwaredu'n ddiogel os cânt eu cyflwyno ar ffurf copi caled) cyn gynted ag y cânt eu hadnabod, a chyn i ddadansoddiad gael ei gynnal.
Gwybodaeth sy'n ymwneud â hawliadau teithio a chynhaliaeth gan dystion allanol
Os byddwch yn hawlio am gostau teithio a chynhaliaeth mewn perthynas â'ch presenoldeb mewn cyfarfod pwyllgor Senedd neu ddigwyddiad a drefnir gan bwyllgor Senedd, byddwn yn cadw eich manylion personol a chynnwys unrhyw dderbynebau a gafwyd am saith mlynedd. Yna byddant yn cael eu dileu'n ddiogel.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth
Rydym yn prosesu eich gwybodaeth i gyflawni ein swyddogaeth seneddol o gefnogi gwaith pwyllgorau'r Senedd, er enghraifft pan fyddwn yn defnyddio gwybodaeth a gyflwynir mewn ymateb i alwad am dystiolaeth gan bwyllgor. Ein sail gyfreithiol yw bod prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd yn unol ag Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU (y cyfeirir ato fel ein “tasg gyhoeddus”).
Bydd hefyd yn angenrheidiol i'r Comisiwn gyfleu a hyrwyddo gwaith y Senedd er mwyn galluogi'r Senedd i ystyried barn y bobl y mae'n eu cynrychioli wrth wneud penderfyniadau. Pan rydym yn gwneud hyn, rydym yn dibynnu ar sail gyfreithiol ein tasg gyhoeddus.
Gwybodaeth am euogfarnau a chollfarnau troseddol
Byddwn yn prosesu data personol sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau os dewiswch eu cyflwyno. Bydd hyn yn cael ei brosesu lle bo angen ar gyfer cyflawni tasg a wneir er ‘budd sylweddol y cyhoedd’ yn unol ag Erthygl 10 GDPR y DU, ynghyd ag adran 10 o Ddeddf Diogelu Data 2018 a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi.
Gwybodaeth am gategorïau arbennig o ddata personol
Byddwn yn prosesu data personol categori arbennig os byddwch yn dewis cyflwyno data o’r fath. Gall data personol categori arbennig gynnwys data sy'n datgelu hil, ethnigrwydd, barn wleidyddol, aelodaeth undeb llafur, credoau crefyddol neu athronyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a data am iechyd.
Fel arfer, bydd data categori arbennig yn cael ei brosesu ar y sail eu bod yn angenrheidiol am resymau ‘budd sylweddol y cyhoedd’ yn unol ag Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU, ynghyd â pharagraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.
Archifo
Bydd cynnwys eich cyfraniad yn dod yn gofnod cyhoeddus ac efallai y caiff ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i’w archifo. Bydd hyn yn cael ei brosesu lle bo angen gwneud hynny i gyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd. Pryd bynnag y byddwn yn archifo unrhyw ddata personol neu wybodaeth categori arbennig sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol neu droseddau, caiff hyn ei brosesu ar y sail ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, yn unol ag Erthygl 9(2)(j) o GDPR y DU a ddarllenir ar y cyd â pharagraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.
Eich hawliau
Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau’n ‘gais am fynediad gan destun y data’.
- cywiro unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch (sylwer bod gofyn i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
- ein bod yn rhoi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau.
Os hoffech arfer unrhyw rai o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn, neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data (gweler isod).
Ceisiadau am wybodaeth a wneir i Gomisiwn y Senedd
Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r cyfan neu rywfaint o’r wybodaeth a ddarperir gennych. Dim ond os yw’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid inni rannu'r wybodaeth y byddwn yn gwneud hynny.
Swyddog Diogelu Data
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol, neu am sut i arfer eich hawliau, dylech gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt a ganlyn:
Tŷ Hywel,
Stryd Pierhead,
Bae Caerdydd
CF99 1SN
0300 200 6494
Sut i gwyno
Os ydych yn pryderu nad ydym wedi trin eich gwybodaeth bersonol mewn modd priodol, gallwch wneud cwyn i'r Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad a ganlyn: diogelu.data@senedd.cymru
Yn dilyn cwyn, os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon â’n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd, a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y wefan hon.
Cafodd y datganiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 15 Mehefin 2026.
Gweld fersiynau blaenorol o'r polisi hwn
- Hysbysiad Preifatrwydd yr Ymchwiliadau (i Mehefin 2026)
- Hysbysiad Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd (i Gorffennaf 2021)
- Polisi Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd (i Mehefin 2020)
- Polisi Preifatrwydd yr Ymchwiliadau (i Gorffennaf 2018)
- Polisi Preifatrwydd yr Ymchwiliadau (Y Pedwerydd Cynulliad)
Hysbysiadau preifatrwydd blaenorol eraill sydd bellach wedi’u cwmpasu gan yr hysbysiad hwn:
- Hysbysiad preifatrwydd arolwg monitro amrywiaeth pwyllgorau’r Senedd (i Mehefin 2026)
- Hysbysiad Preifatrwydd Teithio a Chynhaliaeth Pwyllgor y Senedd (i Mehefin 2026)