Canllaw i dystion

Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/08/2024

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Paratoi i fod yn dyst

—  Hygyrchedd

—  Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

—  Yn ystod cyfarfod pwyllgor

—  Ar ôl cyfarfod pwyllgor

 


 

Ar ôl cyfarfod pwyllgor

Gall pwyllgor wneud y canlynol: 

  • cynnal mwy o sesiynau tystiolaeth
  • cael gafael ar ragor o wybodaeth, a allai gynnwys ysgrifennu atoch i ofyn cwestiynau dilynol  
  • cyhoeddi adroddiad byr gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

Bydd tîm clercio'r pwyllgor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

 

Gwylio’r cyfarfod eto 

Fe allwch chi wylio sesiynau eto ar Senedd.tv. Gallwch hefyd lawrlwytho clipiau o gyfarfodydd. 

 

Darllen y trawsgrifiad

Mae trawsgrifiad cyfarfod, sef ‘Cofnod y Trafodion’, fel arfer ar gael ar wefan y Senedd o fewn ychydig ddyddiau.

Mae ‘Cofnod y Trafodion’ yn gofnod ysgrifenedig, gair-am-air o’r hyn a ddwedwyd yn ystod cyfarfod, ac wedi’i olygu i raddau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau megis gwallau gramadegol, geiriau o’u lle a chamgymeriadau amlwg.

Bydd tîm clercio'r pwyllgor yn anfon linc i'r trawsgrifiad atoch mewn e-bost, pan fydd ar gael.

Bydd gyda chi gyfle i ddarllen y trawsgrifiad, a gwirio a yw'n gywir. Byddwch yn cael rhywfaint o amser i awgrymu unrhyw gywiriadau i'r hyn a ddwedoch. 

 

Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Fe fyddwch chi’n cael e-bost yn gofyn ichi lenwi arolwg amrywiaeth.

Mae pwyllgorau’n monitro amrywiaeth y rheini sy’n darparu tystiolaeth drwy ofyn i dystion, ac eraill y maent yn gweithio gyda nhw, i ddweud ychydig mwy wrthynt amdanynt eu hunain, a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli.

Mae’r ymatebion yn helpu pwyllgorau i ddeall yn well beth allai fod yn rhwystrau i gyfrannu.

Darllenwch fwy am pam mae’r Senedd yn gwerthfawrogi tystiolaeth amrywiol