Cynnwys
— Trosolwg
— Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst
Hygyrchedd
Os oes pethau y gallwn ni eu gwneud i'ch helpu i roi eich tystiolaeth, rhowch wybod i'r tîm clercio cyn y cyfarfod.
Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol, gyda pharch, a dim ond yn cael ei rhannu â’r rheini sydd angen iddynt fod yn ymwybodol, er mwyn gwneud unrhyw addasiadau rhesymol. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich tystiolaeth.
Mae addasiadau yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw:
- llwybrau heb risiau
- parcio hygyrch
- cyfieithu ar y pryd, er mwyn galluogi’r defnydd o ieithoedd eraill yn ystod cyfarfodydd, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain
- cael rhywun gyda chi, ar gyfer anghenion cyfathrebu neu symudedd
- mynediad i gyfleusterau tawel, os ydych chi’n cael trafferth gydag ardaloedd prysur neu swnllyd
- dolenni clyw, os oes gyda chi ystod lai o gly
Ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor wnaeth eich gwahodd.