Canllaw i dystion

Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/08/2024

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Paratoi i fod yn dyst

—  Hygyrchedd

—  Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

—  Yn ystod cyfarfod pwyllgor

—  Ar ôl cyfarfod pwyllgor

 


 

Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

Gall pwyllgorau’r Senedd gyfarfod fel a ganlyn:

  • ar y safle, gyda'r holl gyfranogwyr mewn ystafell gyda'i gilydd
  • mewn cyfarfod hybrid, gyda rhai cyfranogwyr yn ymuno ar-lein tra bod eraill mewn ystafell gyda'i gilydd
  • mewn cyfarfod ar-lein, gyda'r holl gyfranogwyr yn ymuno â'r cyfarfod ar-lein

Caiff fformat y cyfarfod ei bennu gan bob pwyllgor unigol. Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau megis dewisiadau’r cadeirydd a’r aelodau, yn ogystal â’ch lleoliad, argaeledd ac anghenion fel tyst.

Os bydd pwyllgor yn penderfynu cyfarfod mewn lleoliad y tu hwnt i ystad y Senedd, bydd tîm clercio’r pwyllgor yn rhoi gwybod ichi.

Cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor os hoffech chi drafod yr hyn sydd well gennych ar gyfer ymuno â chyfarfod pwyllgor.

 

Canllawiau ar gyfer mynd i gyfarfod ar y safle

Canllawiau ar gyfer ymuno â chyfarfod ar-lein

 

 

Mynd i gyfarfod ar y safle

Cyrraedd ystad y Senedd

Fe ddylech chi gyrraedd 20 – 30 munud cyn dechrau'r cyfarfod. 

I gael cyfarwyddiadau i ystad y Senedd a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, gweler ein gwybodaeth ar gyfer ymweld.

Bydd tîm clercio’r pwyllgor yn rhoi gwybod a ddylech chi fynd i dderbynfa’r Senedd neu dderbynfa Tŷ Hywel.

Mynd trwy fesurau diogelwch

Bydd angen i fagiau, cotiau ac eitemau eraill fynd trwy broses ddiogelwch debyg i rai maes awyr, ac mae ymwelwyr yn cael eu gwirio gyda synwyryddion metel yn y fynedfa.

Am resymau diogelwch, ni ellir mynd â darnau mawr o fagiau i ystad y Senedd. Nid oes cyfleusterau storio ar gael ar y safle.

Unwaith y byddwch chi yn yr adeilad

Ewch i'r dderbynfa berthnasol a siaradwch â'n gwasanaethau ymwelwyr ar y ddesg flaen. Rhowch eich enw iddyn nhw, a pha bwyllgor yr ydych yn mynd iddo.

Byddwch rhywun yn mynd gyda chi i ardal lle gallwch chi aros, cyn mynd i mewn i'r ystafell bwyllgora. Bydd aelod o dîm clercio'r pwyllgor yn cwrdd â chi yno.

Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr

Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor wnaeth eich gwahodd, cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych yn mynd i gyfarfod y tu allan i oriau agor arferol

Os ydych yn mynd i gyfarfod y tu allan i oriau agor arferol, bydd aelod o staff yn aros i'ch gadael i mewn.

Ar ddiwedd y cyfarfod

Unwaith y bydd y cadeirydd wedi nodi bod eich sesiwn dystiolaeth wedi dod i ben, byddwch yn cael eich tywys o'r ystafell gan aelod o dîm clercio'r pwyllgor.

Os yw’r cyfarfod yn parhau, a’ch bod chi eisiau ei wylio, rhowch wybod i’r aelod o dîm clercio’r pwyllgor, a bydd yn ceisio gwneud trefniadau ichi wylio o’r oriel gyhoeddus neu ar Senedd.tv.

 

Ymuno â chyfarfod ar-lein

Mae cyfarfodydd ar-lein yn drafodion ffurfiol y Senedd. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud y canlynol:

  • cyrraedd ar yr amser y gofynnir ichi fod yno
  • bod yn barod i gymryd rhan fel petaech chi yno’n bersonol
  • peidio â rhannu'r linc, na gofyn i unrhyw un arall ymuno â'r cyfarfod, oni bai eich bod wedi cytuno ar hyn gyda thîm clercio'r pwyllgor ymlaen llaw

Cyn y cyfarfod

Bydd y canlynol y digwydd cyn cyfarfod y pwyllgor:

  • Anfonir ID cyfarfod, cyfrinair, a linc atoch chi ar gyfer yr ap Zoom, neu web client;
  • efallai y gofynnir ichi fod yn bresennol ar gyfer prawf yn y dyddiau cyn y cyfarfod, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl offer yn gweithio'n gywir, ac yn bodloni'r gofynion ar gyfer darlledu cyfarfod y pwyllgor.

Os oes angen help arnoch chi i ymuno â chyfarfod ar-lein, cysylltwch â thîm clercio’r pwyllgor.

Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr

Os ydych chi'n rhedeg yn hwyr, cysylltwch â thîm clercio'r pwyllgor wnaeth eich gwahodd, cyn gynted ag y gallwch.

Ymuno â’r cyfarfod

Wrth ymuno â chyfarfod pwyllgor, fe ddylech chi wneud y canlynol:

  • ymuno ar yr amser y gofynnwyd ichi fod yno
  • ymuno â'r cyfarfod o leoliad tawel, gyda chefndir plaen ar ddyfais sengl, yn hytrach nag ystafell fideo gynadledda
  • defnyddio clustffon, i sicrhau ansawdd sain da i chi a'r pwyllgor
  • peidio â defnyddio cefndiroedd rhithwir – os oes rhaid i chi ddefnyddio hidlydd, fe'ch anogir i niwlio'ch cefndir yn hytrach na defnyddio graffeg
  • gwneud yn siŵr bod pob hysbysiad ar eich dyfais wedi'i dawelu er mwyn osgoi unrhyw ymyrraeth yn ystod y cyfarfod
  • gwneud yn siŵr bod eich enw go iawn yn ymddangos fel eich enw Zoom, fel bod tîm clercio’r pwyllgor yn gwybod pwy ydych chi cyn eich gadael i mewn i’r cyfarfod

Ymuno â'r ‘ystafell aros’

Pan fyddwch chi’n cysylltu â'r cyfarfod, fe fyddwch chi’n cael eich rhoi mewn ‘ystafell aros’ (a elwir hefyd yn ‘lobi’). Fe fyddwch chi’n cael eich derbyn i'r cyfarfod gan dîm clercio’r pwyllgor, pan fydd y pwyllgor yn barod.

Bydd tîm clercio’r pwyllgor yn cadw mewn cysylltiad os ydynt yn rhagweld y byddwch yn aros am beth amser i gael eich derbyn.

Pan fyddwch chi yn yr ‘ystafell aros’ efallai y gofynnir i chi wneud y canlynol:

  • paratoi i gadarnhau eich enw a'ch sefydliad
  • dangos dull adnabod, at ddibenion diogelwch

Fe ddylech chi wneud yn siŵr bod gyda chi ryw fath o ddogfen adnabod ffurfiol, fel pàs gwaith swyddogol, neu gerdyn adnabod â llun, wrth law at y dibenion hyn.

Cysylltu â'r cyfarfod

Unwaith y cewch chi eich derbyn i'r cyfarfod bydd, y clerc neu'r cadeirydd yn gwneud y canlynol:

  • profi eich meicroffon
  • esbonio sut i gael mynediad at gyfieithu ar y pryd, os oes ei angen arnoch
  • esbonio sut bydd y cyfarfod yn rhedeg, a rhoi cyfle ichi ofyn unrhyw gwestiynau olaf sydd gennych, o bosib

Ni fydd hynny’n cael ei ddarlledu. Fodd bynnag, bydd pawb arall sy’n cymryd rhan yn y cyfarfod, gan gynnwys aelodau’r Pwyllgor, yn gallu’ch clywed a'ch gweld chi.

Bydd angen ichi ddewis eich gosodiadau cyfieithu bob tro y byddwch chi’n dychwelyd i gyfarfod o'r ystafell aros.

Yn ystod y cyfarfod

Yn ystod y cyfarfod, fe ddylech chi wneud y canlynol:

  • dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a gewch chi gan y cadeirydd
  • codi llaw corfforol i ddal sylw'r cadeirydd, os ydych chi eisiau siarad

Bydd eich meicroffon yn cael ei reoli gan dîm darlledu’r Senedd, felly nid oes angen ichi boeni am dewi a dad-dewi eich hun.

Byddwch yn ofalus o unrhyw reolaethau ar eich dyfeisiau a allai ddiystyru’r gosodiadau hyn yn lleol – gallai unrhyw sylwadau a wneir yn ystod trafodion gael eu clywed gan gyfranogwyr eraill, neu ymddangos ar y ffrwd darlledu.

Materion technegol

Os cewch chi broblem dechnegol yn ystod sesiwn fyw, fe fyddwch chi’n cael eich gwahodd i ystafell rithwir gan beiriannydd o’r Senedd.

Os bydd eich cysylltiad yn methu, ceisiwch ailymuno â'r cyfarfod cyn gynted ag y gallwch.

Os byddwch chi’n cael trafferth ailymuno, anfonwch e-bost at dîm clercio'r pwyllgor cyn gynted ag y gallwch, i'ch helpu i ailymuno.

Os cewch chi broblemau gyda'r ffrwd cyfieithu, rhowch wybod i'r cadeirydd cyn gynted ag y gallwch, a cheisiwch ail-ddewis eich gosodiadau cyfieithu.

Ar ddiwedd y cyfarfod

Unwaith y bydd y cadeirydd wedi nodi bod eich sesiwn dystiolaeth wedi dod i ben, dewiswch y botwm ar gyfer gadael y cyfarfod. Mae’n bosibl y bydd y cyfarfod ei hun yn parhau, ac fe allwch chi ei wylio ar Senedd.tv.