Canllaw i dystion

Cyhoeddwyd 18/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/08/2024

Cynnwys

—  Trosolwg

—  Paratoi i fod yn dyst

—  Hygyrchedd

—  Mynd i gyfarfod pwyllgor fel tyst

—  Yn ystod cyfarfod pwyllgor

—  Ar ôl cyfarfod pwyllgor

 


 

Yn ystod cyfarfod pwyllgor

Pan fyddwch chi’n ymuno â’r cyfarfod, bydd y canlynol yn digwydd:

  • bydd cadeirydd y pwyllgor yn eich croesawu;
  • bydd y cadeirydd naill ai'n eich cyflwyno, neu'n gofyn ichi gyflwyno'ch hun;
  • efallai y bydd y cadeirydd yn gofyn ichi wneud datganiad agoriadol byr – bydd tîm clercio’r pwyllgor yn rhoi gwybod ichi ymlaen llaw, er mwyn i chi allu paratoi. 

Yn gyffredinol, bydd y pwyllgor, wedyn, yn dechrau gofyn cwestiynau i chi.

 

Cwestiynau ac atebion 

Bydd y cadeirydd yn hwyluso'r sesiwn holi ac ateb.

Bydd y cadeirydd yn galw ar aelodau’r pwyllgor i ofyn cwestiynau, ac yn gofyn ichi ateb.

Bydd cwestiynau naill ai’n cael eu gofyn i banel o dystion, neu’n cael eu cyfeirio atoch chi’n benodol.

Os ydych chi’n awyddus i ymuno â thrafodaeth, ceisiwch ddal sylw’r cadeirydd neu'r clerc, fel eu bod yn gallu nodi yr hoffech chi gyfrannu. 

Bydd y cwestiynau'n ymwneud â'ch barn, arbenigedd, neu brofiadau. Rhwydd hynt ichi ddweud os nad ydych chi am ateb cwestiwn, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch yr ateb. Fe allwch chi hefyd gynnig anfon rhagor o wybodaeth at y pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

Os daw’r amser i ben, neu os ydych chi’n cofio rhywbeth ar ôl y sesiwn yr hoffech chi ei ychwanegu at eich atebion, anfonwch y wybodaeth at dîm clercio'r pwyllgor.

 

Nodiadau a thechnoleg

Fe allwch chi ddod â nodiadau gyda chi i'r sesiwn. Gall y rhain fod ar ddyfais electronig fel gliniadur, neu ar bapur.

Gwnewch yn siŵr fod dyfeisiau symudol yn cael eu tewi, a'u rhoi mewn bag neu boced, i osgoi unrhyw darfu ar y cyfarfod.

P'un a ydych chi yn yr ystafell neu'n ymuno ar-lein, nid oes angen ichi boeni am droi meicroffonau ymlaen ac i ffwrdd. Bydd hyn yn cael ei wneud i chi gan dechnegwyr y Senedd.  

 

Dewis iaith

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol - Cymraeg a Saesneg. 

Fe allwch chi ddewis siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu gymysgedd o'r ddau.

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Cyn y cyfarfod, bydd tîm clercio’r pwyllgor yn esbonio sut i gael mynediad at gyfieithu ar y pryd, p’un a ydych yn ymuno ar y safle neu ar-lein.

Os oes gyda chi unrhyw broblemau gyda’r ffrwd cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfarfod, cofiwch ddal sylw’r cadeirydd neu’r clerc, er mwyn inni allu datrys y broblem.