Mathau eraill o dystiolaeth

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Yn ôl i Ar ddiwrnod y cyfarfod | Ymlaen i Cyflwyno adroddiadau

Yn ogystal â gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig, a chasglu tystiolaeth lafar, gall pwyllgor ddod o hyd i wybodaeth mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, fe allai gyhoeddi arolwg neu holiadur i gasglu safbwyntiau, neu drefnu ymweliadau i gasglu gwybodaeth mewn man penodol. Mae timau clercio yn hapus i drafod ffyrdd gwahanol o gasglu tystiolaeth a allai fod yn fwy priodol i chi neu eich sefydliad yn eich barn chi.

Yn y gorffennol, mae pwyllgorau wedi casglu tystiolaeth mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:

Cyfarfodydd pwyllgor anffurfiol
Gellir cynnal y rhain yn y Senedd neu oddi ar y safle, ac ni chânt eu cofnodi gair am air. Ceir trafodaeth fwy hamddenol lle mae tystion yn teimlo'n gyfforddus i ofyn cwestiynau i aelodau'r pwyllgor neu i'w gilydd mewn cyfarfodydd pwyllgor anffurfiol. Gellir cymryd nodiadau o'r trafodaethau anffurfiol os yw'r tystion yn cytuno i hynny. Gellir defnyddio'r nodiadau hyn wedyn ar gyfer 'busnes' mwy ffurfiol y pwyllgor (fel adroddiad y pwyllgor). Gall tystion fod yn anhysbys yn y nodiadau os ydynt yn dymuno. Gall cyfarfodydd a gynhelir y tu allan i'r Senedd fod mewn lleoliadau y mae'r tystion yn fwy cyfarwydd â hwy, sy'n golygu bod y trafodion yn codi llai o ofn ar y bobl sy'n cymryd rhan.

Ymweliadau
Gall ymweliadau pwyllgor gynnwys un aelod o bwyllgor neu ragor yn ymweld â lleoliad neu brosiect penodol i ddysgu mwy amdano.

Fel arall, gallai ymweliad gynnwys cyfarfod â thystion yn anffurfiol, mewn lleoliad cyfarwydd i'r tystion fel arfer, er mwyn casglu tystiolaeth ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor. Cymerir nodiadau o'r trafodaethau weithiau, a gellir cytuno ar y rhain a'u defnyddio ar gyfer busnes mwy ffurfiol y pwyllgor (eto, fel adroddiadau).

Y defnydd o dechnoleg
Gall arolygon neu systemau pleidleisio ar-lein helpu p​​wyllgorau i gysylltu â chynulleidfa ehangach mewn ffordd fwy anffurfiol.​