Sefydliad: Senedd Cymru
Teitl y swydd: Archwilydd Cyffredinol Cymru
Cyfeirnod y swydd: QBVSA
Dyddiad cau: Hanner nos ddydd Gwener 31 Hydref 2025
Mae Senedd Cymru yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru. Dyma un o'r penodiadau cyhoeddus pwysicaf yng Nghymru, gan gynnig cyfle unigryw i arwain swyddfa annibynnol sy'n ganolog i uniondeb, atebolrwydd a thryloywder cyllid cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llais annibynnol hanfodol sy'n rhoi adborth gwrthrychol, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfrifol am archwilio tua £28 biliwn o wariant cyhoeddus blynyddol yng Nghymru ac am arwain Archwilio Cymru, sefydliad o tua 280 o staff gyda chyllideb o £28.4 miliwn. Mae'r rôl yn gofyn am annibyniaeth lwyr ar y Llywodraeth, gan roi sicrwydd i'r Senedd a phobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon ac yn effeithiol, ac mewn ffyrdd sy'n cynnig gwerth am arian.
Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu Archwilio Cymru, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llunio ac yn cyflawni strategaeth y sefydliad, gan hyrwyddo gwaith archwilio cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny gan weithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt i ennyn hyder mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd eithriadol, gyda phrofiad dwfn o archwilio cyhoeddus, atebolrwydd ariannol neu arweinyddiaeth sefydliadol ar lefel uwch. Bydd yn dod â’r gallu i feddwl yn annibynnol ac i ennyn hygrededd ymhlith rhanddeiliaid uwch, yn ogystal â'r gallu i gynrychioli Archwilio Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel cynghorydd i Senedd Cymru wrth wneud y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, ewch i www.saxbam.com/appointments gan ddefnyddio'r cyfeirnod QBVSA. I wneud cais am y rôl, anfonwch neges e-bost at Belinda Beck, Belinda.beck@saxbam.com, gan ddyfynnu'r cod QBVSA, ynghyd â CV, datganiad ategol, ffurflen GDPR, ffurflen cyfle cyfartal a ffurflen cymhwysedd (mae’r ffurflenni hyn ar gael ar wefan Saxton Bampfylde). Dylai ceisiadau ddod i law erbyn hanner nos ddydd Gwener 31 Hydref 2025.
chevron_right chevron_right