Rydym am i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol fod yn gyfrwng ar gyfer holi, trafod a sgwrsio yn barchus.
Er mwyn sicrhau bod ein sianeli yn llefydd diogel a phleserus i bawb, mae gennym ni restr fer o ‘reolau tŷ’. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol wrth bostio ar unrhyw un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gwnewch y canlynol:
- cydymffurfio â thelerau defnyddio’r platfform cyfryngau cymdeithasol (h.y. Facebook, LinkedIn ac ati).
- defnyddio ychydig o Gymraeg yn eich neges, yn enwedig os ydych chi’n dysgu
- sicrhau bod eich negeseuon yn cadw at y pwnc
- cadw’r iaith yn briodol a pharchu eraill sy’n postio
- rhannu ein negeseuon â’ch ffrindiau a’ch teulu.
Ni ddylech wneud y canlynol:
- postio neu rannu gwybodaeth bersonol
- postio unrhyw beth anghyfreithlon, difenwol, enllibus, sarhaus, bygythiol, niweidiol, anweddus, yn sarhaus o ran cyfeiriadedd rhywiol neu hil
- bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn neu ddychryn unrhyw un
- postio delweddau graffig, sensitif neu dramgwyddus
- gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol
- dynwared neu bostio fel pobl eraill
- sbamio neu drolio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (h.y. postiadau negyddol neu ddifrïol cyson, neu bostiadau sydd wedi'u cynllunio i ysgogi ymatebion negyddol neu ddifrïol)
- postio’r un neges, neu neges debyg, dro ar ôl tro
- hyrwyddo neu hysbysebu gwasanaethau eraill ar ein sianeli
- postio lincs sy’n cyfeirio pobl at wefannau neu hysbysebion amherthnasol, niweidiol neu amhriodol
- postio cynnwys sy'n torri hawlfraint neu unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill.
Byddwn yn dileu postiadau yr ydym yn teimlo sydd:
- yn amharchus at eraill
- yn amhriodol
- ddim yn cydymffurfio â thelerau defnyddio platfform cyfryngau cymdeithasol
- torri rheolau’r tŷ hyn.
Byddwn yn rhwystro, gwahardd a/neu adrodd am unrhyw ddefnyddiwr i’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig sydd:
- ddim yn cydymffurfio â’r telerau defnyddio platfform cyfryngau cymdeithasol
- yn torri’r rheolau tŷ hyn dro ar ôl tro.
Er mwyn i’n cymedrolwyr allu rheoli cymedroli sylwadau, byddwn yn cyfyngu ar y swyddogaethau ymateb a sylwadau cyhoeddus ar rai o’r pethau rydym yn eu postio.
Rhaid i Dîm Digidol Comisiwn y Senedd aros yn wleidyddol niwtral bob amser, a dyna pam na allwn ymateb i, cymeradwyo nac ymgysylltu ag unrhyw gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol sydd o natur wleidyddol bleidiol. Os hoffech drafod materion gwleidyddol, cysylltwch ag Aelod o’r Senedd.