Sut alla i bleidleisio yn Etholiad y Senedd?


I bleidleisio yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 rhaid i chi:

  • fod yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr Etholiad (y diwrnod pleidleisio)
  •  bod wedi cofrestru i bleidleisio
  • bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, yn dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys
  • byw yng Nghymru, a
  • bod â hawl gyfreithiol i bleidleisio

 

Ydych chi’n ansicr a ydych yn gymwys?

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn darparu digon o wybodaeth am gofrestru i bleidleisio.

Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein drwy wefan gov.uk, neu drwy ddefnyddio ffurflen bapur.

Gofynnir ichi am eich Rhif Yswiriant Gwladol, ond gallwch gofrestru o hyd os nad oes gennych un.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd