Diddordebau a llwyddiannau allweddol
Mae Paul yn ymgyrchydd cyson dros y gymuned
awtistiaeth yng Nghymru a chyflwynodd ddeddfwriaeth ddrafft ar Ddeddf Awtistiaeth
i Gymru, a arweiniodd at newidiadau statudol sylweddol mewn darpariaeth
awtistiaeth yng Nghymru, er na chafodd y ddeddf ei hun ei phasio gan y Senedd.
Paul hefyd yw prif ffigwr yr ymgyrch i gadw a diogelu Cofebion Rhyfel yng
Nghymru yn well ac mae'n codi'r mater hwn yn Siambr y Senedd yn rheolaidd.
Hanes personol
Ganed Paul ym 1969 a thyfodd i fyny ym Mhont-siân
y tu allan i Landysul yn sir Ceredigion. Mynychodd Ysgol Gynradd Tregroes,
Ysgol Ramadeg Llandysul ac ar ôl astudio ei Lefel A yn Ysgol Gyfun
Castellnewydd Emlyn, ymunodd â Banc Lloyds ym 1987.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei ethol, parhaodd Paul i gael ei gyflogi gan Fanc Lloyds a'i rôl
olaf gyda'r cwmni oedd fel Rheolwr Busnes yn Hwlffordd yn helpu i gefnogi
busnesau bach.
Hanes gwleidyddol
Ym mis Chwefror 2000, ymladdodd Paul isetholiad
Seneddol Ceredigion a gwella sefyllfa Plaid y Ceidwadwyr Cymreig gan ddod yn
drydydd y tro hwn ar ôl iddi ddod yn bumed yn yr etholiad blaenorol. Safodd
hefyd yn etholiad cyffredinol 2001 fel yr ymgeisydd Seneddol dros Geredigion.
Yn 2003, safodd Paul dros y Ceidwadwyr Cymreig ym Mhreseli Sir Benfro yn
etholiad y Cynulliad a chynyddu cyfran ei blaid o 23 y cant i 30 y cant. Ym mis
Mai 2007, etholwyd Paul yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Breseli
Sir Benfro, gyda 38.6 y cant o'r bleidlais a mwyafrif o 3,205. Yn dilyn yr
etholiad, penodwyd Paul yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, y Gymraeg a
Chwaraeon ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg
a'r Gymraeg. Yn etholiad y Cynulliad yn 2011, ail-etholwyd Paul a chynyddodd ei
gyfran o'r bleidlais i 42.4 y cant. Fe'i penodwyd yn Arweinydd Dros Dro Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ac fe'i
penodwyd yn ddiweddarach yn Ddirprwy Arweinydd Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig a
Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid. Yn 2016, ail-etholwyd Paul, gan gynyddu ei
fwyafrif i 3,930. Parhaodd yn Ddirprwy Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Rheolwr Busnes a
Phrif Chwip yn ogystal â
dod yn llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Faterion Gwledig. Ym mis Medi 2018,
etholwyd Paul yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, swydd a fu ganddo
tan 2021. Yn etholiad y Senedd yn 2021, cafodd Paul ei ailethol eto gyda
mwyafrif o 1,400.
Asedau’r Cyfryngau
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd
Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad
(PDF, 466KB)