Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Ar ôl gadael y
brifysgol bu Cefin yn dysgu Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael
ei benodi fel darlithydd Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru ym
Mhrifysgol Caerdydd. Sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghymru – erbyn hyn
mae 22 o Fentrau Iaith ledled Cymru. Bu’n aelod o Awdurdod S4C a Bwrdd
Llywodraethwyr Coleg Sir Gâr yn ogystal â gweithredu fel ymgynghorydd iaith i
Bòrd na Gàidhlig yn yr Alban. Bu hefyd yn
arolygydd trwyddedig i Estyn ac yn gadeirydd ar nifer o fyrddau llywodraethol
ysgolion. Yn ystod ei gyfnod fel aelod o Gabinet Cyngor Sir Gâr fe gadeiriodd
grŵp traws bleidiol a
ddatblygodd strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cyngor, strategaeth i
adfywio Sir Gâr
wledig, cynllun arloesol i daclo tlodi, cynllun gweithredu i sicrhau bod Cyngor
Sir Gâr yn cyrraedd net-sero carbon erbyn 2035 a llunio adroddiad i fynd i’r
afael â hiliaeth a gwahaniaethu. Yn ei amser hamdden mae’n hoffi gwylio’r
Sgarlets, cefnogi tîm pêl droed Abertawe, pysgota a charafanio!
Hanes personol
Mae’n briod a
ganddo dair o ferched. Mae’r hynaf yn newyddiadurwraig, yr ail yn y Brifysgol
yng Nghaerdydd ac yn gyn-aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a’r ifancaf yn astudio
ar gyfer ei lefel A. Mae’n byw yn Gelli Aur yn Nyffryn Tywi ond cafodd ei eni
a’i fagu yn Nyffryn Aman. Roedd llawer o deulu ei dad yn lowyr, gan gynnwys ei
dad-cu ond ffermwyr oedd bron y cyfan o deulu ei fam. Mae’n teimlo’n
freintiedig ei fod wedi etifeddu traddodiadau dau o brif ddiwydiannau Cymru!
Cefndir
proffesiynol
Ar ôl gorffen ei
MA cafodd Cefin Campbell ei benodi fel darlithydd Cymraeg i Oedolion ym
Mhrifysgol Abertawe ac yn ddiweddarach fel darlithydd mewn Cymraeg,
Llenyddiaeth Gymraeg a Hanes Cymru yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion,
Prifysgol Caerdydd. Gadawodd y sector addysg uwch yn 1991 i sefydlu’r Fenter
Iaith gyntaf yng Nghymru, sef Menter Cwm Gwendraeth cyn symud ymlaen sefydlu
Mentrau Iaith ym mhob cwr o Cymru. Yn 2008, sefydlodd fusnes ymgynghorol o’r
enw Sbectrwm oedd yn arbenigo mewn ymchwil, cynllunio strategol, rheoli
prosiectau a hyfforddiant gan weithio i rai o gyrff mwyaf blaenllaw Cymru. Bu’n
Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni tan iddo gael ei ethol i chweched Senedd Cymru
ym mis Mai 2021.
Hanes
gwleidyddol
Roedd Cefin yn
Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin rhwng 2012 a 2022 ac yn aelod o
Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig a
Chymunedau rhwng 2017 a 2021. Cafodd ei ethol i’r Senedd yn 2021 fel aelod
rhanbarthol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Arall
Bu Cefin yn
llefarydd grŵp
Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth yn flaenorol. Ym mis Ionawr
2022 fe’i
penodwyd yn Aelod Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a
Llywodraeth Cymru. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn cefnogi deddfwriaeth i fynd
i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, mewn trechu tlodi a chreu miliwn o
siaradwyr Cymraeg.
Asedau’r Cyfryngau