Roedd Caroline Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Ers iddi ddioddef o ganser y fron yn 2007, mae Caroline wedi bod yn 'gyfaill' i ddioddefwyr canser. Mae'n parhau i godi arian ar gyfer elusennau canser ac yn gwneud gwaith gwirfoddol ar eu rhan. Mae hefyd yn cefnogi nifer o elusennau lles anifeiliaid.
Hanes personol
Ganwyd Caroline yn ne Cymru, yn ferch i gyn-filwr ac yn wyres i löwr. Cafodd ei haddysg yn lleol, gan fynd i goleg a phrifysgol yn y rhanbarth.
Cefndir proffesiynol
Er bod Caroline yn athrawes gymwysedig, gadawodd y byd addysg i weithio ym maes llywodraeth leol. Yna, ymunodd â'r Gwasanaeth Carchardai, lle bu'n rheoli ei hadran ei hun. Ar ôl gadael y Gwasanaeth Carchardai, sefydlodd Caroline ddau fusnes bach. Mae hi'n gyflogwr lleol.
Hanes gwleidyddol
Roedd Caroline yn ymgeisydd i blaid UKIP yn Etholiad Ewrop 2014 ac Etholiad Cyffredinol 2015 cyn cael ei henwi'n brif ymgeisydd y blaid yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad.
Ym mis Medi 2018, gadawodd Caroline UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.