Roedd Dai Lloyd yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac
Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau
gwleidyddol Dai Lloyd yn naturiol ym meysydd iechyd a llywodraeth leol. Dai yw
Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach. Mae hefyd yn
bregethwr lleyg, ac yn pregethu'n rheolaidd mewn capeli ledled Prydain.
Hanes personol
Ganed Dai Lloyd
ym 1956 yn Nhywyn, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont
Steffan, ac aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Meddygaeth yng Nghaerdydd.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl graddio,
daeth Dai Lloyd yn feddyg teulu yn Abertawe. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd
yn Gynghorydd Sir yn Ninas a Sir Abertawe.
Hanes gwleidyddol
Roedd Dai Lloyd
yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru rhwng 1999 a 2011. Yn
ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, gwasanaethodd Dai fel Gweinidog Cyllid yr
Wrthblaid a llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol
ac Adfywio.
Cafodd ei
ailethol i’r Cynulliad yn 2016.