Pobl y Senedd

David Melding AS

David Melding AS

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: David Melding AS

Bywgraffiad

Roedd David Melding yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ymhlith diddordebau gwleidyddol David y mae plant sy’n derbyn gofal, iechyd meddwl a materion cyfansoddiadol.

Mae'n awdurdod cydnabyddedig ar gyfansoddiad Prydain, ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr dylanwadol: ‘Will Britain Survive Beyond 2020?’ (2009), a ‘The Reformed Union: The UK as a Federation’ (2013).

Hanes personol

Cafodd David, a aned yng Nghastell-nedd yn 1962, ei addysg yn Ysgol Gyfun Dwr-y-Felin, Castell-nedd; Prifysgol Cymru Caerdydd; a Choleg William a Mary yn Virginia, UDA.

Cefndir proffesiynol

Mae David yn gyn-reolwr Cymdeithas Genedlaethol y Gofalwyr yng Nghymru ac yn gyn-ddirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Gymreig ar Faterion Rhyngwladol.

Hanes gwleidyddol

Cafodd David ei ethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 1999.  Bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ar yr Economi a Thrafnidiaeth, a hynny ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Rhwng 2000 a 2011, David oedd Cyfarwyddwr Polisi'r Ceidwadwyr Cymreig, ac ysgrifennodd faniffestos y blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2003, 2007 a 2011.

Yn flaenorol, bu’n cadeirio Pwyllgor Archwilio y Cynulliad; y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; y Pwyllgor Safonau Ymddygiad; a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

David Melding oedd Dirprwy Lywydd y Pedwerydd Cynulliad.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/07/1999 -
  2. 05/02/2003 - 05/02/2007
  3. 05/04/2007 -
  4. 05/06/2011 - 04/05/2016
  5. 05/06/2016 -

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: David Melding AS