Pobl y Senedd
David Rees AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Aberafan
Y Dirprwy Lywydd
Amdan Rôl y Dirprwy Lywydd
chevron_rightCymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Water Street Business Centre
Water Street
Port Talbot
SA12 6LF
Swyddfa
01639 870779
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7128
E-bost
David.Rees@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: David Rees AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae David yn eiriolwr cryf dros gydberthnasau da rhwng gweithwyr a'u cyflogwyr, felly mae'n credu bod gan undebau llafur rôl bwysig i’w chwarae o ran cefnogi pobl sy'n gweithio. Mae'n aelod o’r undebau llafur Unite ac Unsain, a bu hefyd yn aelod o Undeb y Prifysgolion a'r Colegau yn ystod ei yrfa addysgol. Yn sgil ei ddiddordeb academaidd ym maes cyfrifiaduron, daeth yn aelod o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain ac yn Beiriannydd Siartredig yn ystod ei gyfnod fel academydd.
Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru, darparu gwasanaethau iechyd, addysg, datblygu economaidd ac adfywio, gan gynnwys creu rhagor o gyfleoedd twristiaeth yng nghymoedd De Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau lleol.
Hanes personol
Mae David Rees yn frodor o Aberafan a chafodd ei addysg yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Ar ôl gorffen ei astudiaethau Safon Uwch aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd erbyn hyn) ar gyfer ei astudiaethau israddedig a'i TAR. Ym Mhort Talbot y bu ei gartref erioed, ac erbyn hyn mae'n byw gyda'i wraig yng Nghwmafan, Port Talbot. Mae ganddynt ddwy ferch, a gafodd eu haddysg yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol, a phump o wyrion.
Mae gan David radd anrhydedd mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â chymhwyster addysgu ôl-raddedig a gradd meistr mewn Cyfrifiadureg.
Cefndir proffesiynol
Ar ddechrau ei yrfa, bu David yn athro mathemateg a chyfrifiadureg yn Ysgol Gyfun Cynffig, Mynydd Cynffig, ac yna bu'n ddarlithydd mewn cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan. Yna, aeth i faes addysg uwch fel uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg, a chyn iddo gael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011, datblygodd ei yrfa er mwyn dod yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe (sydd bellach yn rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, bu David yn gadeirydd cydbwyllgor yr undeb llafur ac yn aelod lleyg o bwyllgor rhanbarthol Cymru o UCU (NATFHE) gan gynrychioli aelodau o bob rhan o'r sefydliad.
Mae David wedi dangos diddordeb parhaus mewn llywodraethu addysgol ac wedi bod yn llywodraethwr staff yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe (fel y'i gelwid bryd hynny) a Choleg Afan (fel y'i gelwid bryd hynny), ynghyd â rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Hanes gwleidyddol
Yn 2011 y cafodd David ei ethol gyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan olynu Dr Brian Gibbons fel yr Aelod Cynulliad Llafur dros Aberafan. Yn ystod pedwerydd tymor y Cynulliad bu David yn cadeirio'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bu hefyd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Menter a Busnes, Pwyllgor yr Amgylchedd a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bu hefyd yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd Meddwl a Chymunedau Diwydiannol.
Yn 2016, ail-etholwyd David i gynrychioli Aberafan yn y Senedd. Yn ystod y Bumed Senedd, bu David yn cadeirio’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a bu hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. Parhaodd i gadeirio’r grwpiau trawsbleidiol ar STEMM ac Iechyd Meddwl, a bu hefyd yn cadeirio grwpiau trawsbleidiol ar Ddur, Nyrsio a Bydwreigiaeth a Chanser, tra’r oedd yn aelod o sawl grŵp arall.
Yn 2021, cafodd David ei ailethol unwaith eto i gynrychioli ei dref enedigol yn y Chweched Senedd, ac fe'i etholwyd yn Ddirprwy Lywydd yn dilyn hynny.
Ers ymuno â'r Blaid Lafur ym 1982, mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y blaid yng Nghymru, yn ogystal â'i undebau llafur.
Cyn cael ei ddewis i gynrychioli etholaeth ei gartref yn 2011, bu David yn ymgeisydd y Blaid Lafur yn sir Frycheiniog a Maesyfed yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, ac yn ymgeisydd ar restr Gorllewin De Cymru yn etholiad 2007.
Aelodaeth
- Fforwm y Cadeiryddion
- Pwyllgor o'r Senedd Gyfan
- Pwyllgor Senedd y Dyfodol (Cadeirydd)
- Pwyllgor y Llywydd (Cadeirydd)
- Y Cyfarfod Llawn
- Y Pwyllgor Biliau Diwygio (Cadeirydd)
- Y Pwyllgor Busnes (Gwestai)
- Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog (Cadeirydd)
Tymhorau yn y swydd
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)