Roedd Dr Aled Eirug yn newyddiadurwr am 25 mlynedd, a
bu'n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru rhwng 1992 a 2003. Rhwng
2006 a 2011, bu'n gynghorydd cyfansoddiadol i'r Llywydd yn y Cynulliad
Cenedlaethol. Roedd yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru (2010-2016), ac
yn Gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru (2007-2012). Ar hyn o bryd, mae'n aelod o
Fwrdd Cynnwys Ofcom ac mae'n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Yn
ddiweddar, mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar y gwrthwynebiad a gafwyd i'r Rhyfel Mawr
yng Nghymru.