Y Dirprwy
Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae blaenoriaethau gwleidyddol Hannah yn cynnwys gwthio i
greu rhagor o swyddi da, cyfleoedd da a buddsoddiad o’r tu allan i ogledd-ddwyrain
Cymru, ochr yn ochr â sicrhau bod ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau yn
ffynnu.
Mae diddordebau polisi penodol gan Hannah mewn:
cyflogaeth; yr economi; seilwaith; cydraddoldebau; addysg; pobl ifanc; tai;
gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.
Hanes
personol
Mae Hannah yn ymfalchïo ei bod yn dod o’r Gogledd ac o
Gei Connah. Aeth hi i ysgol Sant Richard Gwyn yn y Fflint a bellach mae’n byw
yn yr Wyddgrug. Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd Hannah ym Mhrifysgol De
Montfort yng Nghaerlŷr ac ers hynny mae wedi gweithio ledled Sir y Fflint,
Cymru a’r DU.
Cefndir
proffesiynol
Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5
Mai 2016, roedd Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite am bron i ddegawd. Yn
yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu’n cyflawni gwaith o ran arweiniad polisi a
gwaith gwleidyddol ar gyfer yr Undeb yng Nghymru, gan arwain ar nifer o
ymgyrchoedd llwyddiannus gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell
cyfiawnder i ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; gwarchodaeth i weithwyr
gwledig yng Nghymru; a chyflog byw i weithwyr y GIG yng Nghymru.
Yn y gorffennol, bu Hannah yn gweithio i elusen fach, ac
mae hefyd wedi gweithio i Aelod Seneddol yn Sir y Fflint ac yn y sector
lletygarwch yn y sir.
Hanes
gwleidyddol
Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur ac ym
maes gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac mae’n
edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfraniad hwn fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n
gyn-gadeirydd y gangen LGBT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch am
briodasau cyfartal.
Asedau’r Cyfryngau
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)