Hanes personol
Cafodd Jane ei geni a’i magu yn Wrecsam mewn teulu Cymraeg ei iaith, gan
fynychu ysgol gynradd Gymraeg a graddio o Brifysgol Caerdydd cyn hyfforddi i
fod yn weithiwr cymdeithasol. Ar ôl symud gyntaf i’r Trallwng, mae Jane bellach
yn byw yn y Gelli Gandryll gyda’i gŵr Patrick a’u ci achub Wanda.
Cefndir proffesiynol
Roedd Jane yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant am 27 mlynedd, gan
weithio i amddiffyn plant agored i niwed gartref a thramor, cyn dychwelyd i
Gymru yn 2012.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Jane yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am y tro cyntaf
ym mis Tachwedd 2017 mewn balot i’r holl aelodau.