Roedd Jane Hutt yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 1999 a Ebrill 2026.
Pobl y Senedd
Jane Hutt AS
Llafur Cymru
Grŵp Llafur Cymru
Bro Morgannwg
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
115 High Street
Y Barri
CF62 7DT
Swyddfa
01446 740981
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7110
E-bost
Jane.Hutt@senedd.cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Jane Hutt AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Roed Jane Hutt yn Aelod o’r Senedd rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2026. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Jane yn gymrawd anrhydeddus o UWIC ac yn aelod o UNSAIN.
Hanes personol
Treuliodd Jane Hutt ran o'i phlentyndod yn Uganda a Kenya, a chafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Bryste. Mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ers 1972.
Roedd ei thaid a’i nain yn siarad Cymraeg ac yn hanu o ogledd Cymru, ac mae Jane, sydd wedi ymrwymo erioed i weithio dros Gymru, yn dysgu Cymraeg.
Cefndir proffesiynol
Ym 1978, penodwyd Jane yn Gydlynydd Cenedlaethol cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru a hi oedd un o sylfaenwyr Gweithdy Menywod De Morgannwg. Aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr cyntaf Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) ac yn dilyn hynny, fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr Chwarae Teg.
Hi yw awdur 'Opening the Town Hall Door – an Introduction to Local Government’ ac 'A Guide for Women and Employers’.
Hanes gwleidyddol
Roedd Jane yn aelod etholedig o’r hen Gyngor Sir De Morgannwg am 12 mlynedd. Cafodd ei hethol i’r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Rhwng 1999 a 2005 gwasanaethodd fel y Gweinidog Iechyd Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Rhwng 2005 a 2007, hi oedd y Gweinidog dros Fusnes y Cynulliad a’r Prif Chwip. Yng Nghabinet cyntaf y Trydydd Cynulliad, fe’i penodwyd yn Weinidog Cyllideb a Busnes y Cynulliad.
Yng Nghabinet y glymblaid, a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2007, fe’i penodwyd yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Ym mis Rhagfyr 2009 fe’i penodwyd yn Weinidog dros Fusnes a'r Gyllideb ac yna’n Weinidog Cyllid tan 2016 pan gafodd ei phenodi i swydd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.
Tymhorau yn y swydd
- 07/05/1999 - 30/04/2003
- 02/05/2003 - 02/05/2007
- 04/05/2007 - 31/03/2011
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
- Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)
Etholiadau
- Etholiad Senedd (Etholaeth) 2021, 06/05/2021
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2016, 06/05/2016
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2011, 05/05/2011
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2007, 03/05/2007
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2003, 01/05/2003
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 1999, 06/05/1999