Pobl y Senedd

Lee Waters AS

Lee Waters AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Llanelli

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut mae'r ddyletswydd gonestrwydd wedi cael ei gweithredu gan holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 14/11/2024

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r ffordd y mae byrddau iechyd yn cael eu llywodraethu?

Wedi'i gyflwyno ar 10/10/2024

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid dulliau teithio?

Wedi'i gyflwyno ar 09/10/2024

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch mynediad at ofal iechyd yn Llanelli?

Wedi'i gyflwyno ar 26/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet sefydlu cymuned ymarfer ar gyfer y grant tai cymdeithasol?

Wedi'i gyflwyno ar 25/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad o nifer y gweision sifil a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi eu bod yn LHDTCIA+ ar gyfer pob un o'r deng mlynedd ariannol diwethaf?

Wedi'i gyflwyno ar 04/09/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lee Waters AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Lee Waters yw Aelod Senedd Cymru ar gyfer Llafur Cymru a’r Blaid Gydweithredol dros etholaeth Llanelli.

Cyn iddo gael ei ethol ym mis Mai 2016, Lee oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, sef prif felin drafod annibynnol Cymru. Cyn hynny fe redai Sustrans Cymru, elusen ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy. Yno, arweiniodd yr ymgyrch dros Ddeddf Teithio Llesol. Mae'n gyn-Brif Ohebydd Gwleidyddol i ITV Cymru.

Mae ganddo ddiddordebau polisi eang, gan gynnwys yr economi, y cyfansoddiad, newid yn yr hinsawdd, y cyfryngau a'r ddarpariaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Hanes personol

Ganed Lee Waters yn Nyffryn Aman yn sir Gaerfyrddin, ac yno y cafodd ei fagu. Cafodd ei addysg ym Mrynaman ac yn Rhydaman, yn ysgol gyfun y dref honno. Ef yw'r cyntaf o'i deulu i fynd i'r brifysgol, a graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Gwleidyddiaeth.

Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant. Mae'n siarad Cymraeg fel ail iaith.

Cefndir proffesiynol

Cyn iddo gael ei ethol yn 2016, Lee oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig. Yn ystod y tair blynedd y bu’n arwain y sefydliad polisi annibynnol, adnewyddodd yr elusen, gan sefydlogi ei sefyllfa ariannol, ailwampio ei systemau a gosod strategaeth newydd. Golygodd y cylchgrawn dylanwadol, The Welsh Agenda, a hyrwyddodd y dull arloesol o gyllido torfol ym maes datblygu polisi gyda thri phrosiect a oedd yn torri tir newydd.

Rhwng 2007 a 2013, Lee oedd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, lle y goruchwyliodd amryw brosiectau ymarferol i annog newid ymddygiad a dylanwadu ar bolisi. Arweiniodd dîm o 32 er mwyn cyflwyno portffolio amrywiol o raglenni cymhleth gwerth dros £24 miliwn.

Cyn iddo weithio yn y trydydd sector roedd Lee yn newyddiadurwr gwleidyddol. Ac yntau'n Brif Ohebydd Gwleidyddol Newyddion ITV Cymru, cyflwynai Waterfront, y rhaglen wythnosol ar wleidyddiaeth, a gohebai ar y Cynulliad Cenedlaethol ac ar Dŷ'r Cyffredin fel Gohebydd Lobi. Dysgodd Lee hanfodion newyddiadura yn y BBC lle treuliodd ddwy flynedd fel cynhyrchydd ar y rhaglen newyddion, Good Morning Wales.

Hanes gwleidyddol

Yn 18 oed ac yntau yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymunodd Lee â’r Blaid Lafur. Ar ôl bwrw interniaeth yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau fel ESU Capitol Hill Scholar, cymerodd saib oddi wrth astudio am flwyddyn i weithio i'w Aelod Seneddol lleol yn Etholiad Cyffredinol 1997 ac yn y refferendwm ar ddatganoli.

Ar ôl graddio, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwleidyddol i Ron Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ar ôl blwyddyn gynhyrfus, a oedd yn cynnwys etholiad cyntaf y Cynulliad, aeth Lee i fyd newyddiaduraeth. Er iddo weithio mewn byd cyfyng o ran gwleidyddiaeth, daeth yn Llywodraethwr ysgol gweithgar, a chododd y profiad hwnnw awydd arno o'r newydd i newid cymdeithas.

Yn 2007, daeth Lee yn Gyfarwyddwr Cymru ar elusen amgylcheddol Sustrans, ac am chwe blynedd, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sicrhau Deddf Teithio Llesol gyntaf y byd er mwyn codi lefelau cerdded a beicio.

Cafodd ei benodi gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, yn gynrychiolydd Llafur Cymru ar 'Ie dros Gymru', yr ymgyrch drawsbleidiol yn refferendwm datganoli 2011. Fel Is-gadeirydd, arweiniodd ar gyfathrebu a negeseuon, ac roedd yn aelod o'r grŵp bach a lywiodd yr ymgyrch lwyddiannus.

Ar ôl i'r Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli ymddeol yn haf 2015, detholwyd Lee yn ymgeisydd y blaid yn etholaeth ei fro ac fe ddaliodd y sedd - y tro cyntaf i unrhyw blaid lwyddo i gadw’r etholaeth mewn etholiad Cynulliad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Lee Waters AS