Pobl y Senedd

Mark Isherwood AS

Mark Isherwood AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau?

Wedi'i gyflwyno ar 13/11/2024

Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector gofal annibynnol i gynorthwyo gyda chostau ychwanegol cyfraniadau yswiriant gwladol, yn sgil cyhoeddiadau yng nghyllideb Llyw...

Wedi'i gyflwyno ar 07/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a fydd y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'r sector gofal annibynnol i gyflawni'r ymrwymiad i'r cyflog byw gwirioneddol yn cael ei g...

Wedi'i gyflwyno ar 07/11/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r ystadegau digartrefedd diweddaraf a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dangos bod nifer yr unigolion sy'n cysgu allan yng Nghymru...

Tabled on 06/11/2024

A yw Llywodraeth Cymru yn monitro sut y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Wedi'i gyflwyno ar 30/10/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru?

Tabled on 09/10/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mark Isherwood AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ni ddylech ysgrifennu mwy na 300 gair. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb rhwng eich proffil chi a phroffiliau eich cyd-Aelodau Cynulliad.

Diddordebau Mark y tu allan i wleidyddiaeth yw ei deulu a'i gartref. Mae hefyd yn hwylio llai nag y dylai ac yn hoff o gerdded ei gi.

Mae Mark wedi bod yn gynghorydd cymunedol ar gyfer Treuddyn, yn gyn-lywodraethwr (ac yn gadeirydd) Ysgol Parc y Llan ac yn gyn-aelod bwrdd gwirfoddol o Gymdeithas Tai Venture.

Mae'n Aelod o Fwrdd Rheoli Clwb Awtistiaeth Buddies, yn Is-lywydd Canolfan Adnoddau Anabledd Gogledd Cymru, yn Noddwr o Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, yn Llysgennad ar gyfer Geidiau Clwyd, yn Is-lywydd Cymdeithas Chwarae Gogledd Cymru, yn Is-noddwr prosiect hwylio RORO, yn aelod o Lys Prifysgol Glyndŵr, yn Aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Un o noddwyr y Ganolfan Arwyddo Golwg Sain, yn Llywydd y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol, yn Is-lywydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, yn Ymddiriedolwr Families Need Fathers Both Parents Matter Cymru, yn Noddwr o Fforwm Anabledd Sir y Fflint, ac yn Noddwr o Fforwm Polisi Cymru. Mark hefyd oedd sylfaenydd CHANT Cymru (Ysbytai Cymuned yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd) yn yr ail Gynulliad.

Hanes personol

Mae Mark yn byw yn Sir y Fflint gyda'i wraig. Mae ganddynt chwech o blant ac un ŵyr. Graddiodd Mark mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle, a chymhwysodd fel Aelod Cyswllt o Sefydliad Siartredig y Bancwyr. Roedd yn arfer gweithio fel rheolwr ardal ar gyfer cymdeithas adeiladu yn y Gogledd.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Mark i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2003, cyn cael ei ail-ethol yn 2007, 2011 a 2016. Yn yr Ail a'r Trydydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid, addysg, cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thai. Hefyd, roedd yn aelod o nifer o Bwyllgorau'r Cynulliad a chadeiriodd Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad. Hefyd cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, niwrowyddorau ac angladdau a phrofedigaeth. Yn y Pedwerydd Cynulliad, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Tai, Plismona a Gogledd Cymru, yn ogystal ag eistedd ar Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a Phwyllgor Safonau'r Cynulliad. Cadeiriodd Grwpiau Trawsbleidiol ar awtistiaeth, cyflyrau niwrolegol, tlodi tanwydd, hosbisau a gofal lliniarol ac angladdau a phrofedigaeth, a chyd-gadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd.

Yn y Bumed Senedd, ef oedd Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig dros Gymunedau, Ewrop a Gogledd Cymru, yna Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol a Thai, ac yn olaf, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid a’r Prif Chwip. Hefyd, roedd yn Gadeirydd ar Grwpiau Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni, Awtistiaeth, Anabledd, Cyflyrau Niwrolegol, ac Angladdau a Phrofedigaeth.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/05/2003 - 02/05/2007
  2. 04/05/2007 - 31/03/2011
  3. 06/05/2011 - 05/04/2016
  4. 06/05/2016 - 28/04/2021
  5. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mark Isherwood AS