Pobl y Senedd

Mike Hedges AS

Mike Hedges AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Dwyrain Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fformiwla Barnett a sut y mae'n gymwys i Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 04/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu tai cydweithredol yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 03/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 26/06/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lefelau llygredd afonydd?

Wedi'i gyflwyno ar 06/06/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi gyda phryder y gred gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat y dylid darparu pob gwybodaeth ar-lein. 2. Yn nodi ymhellach bod Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-2...

I'w drafod ar 03/06/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu llesiant anifeiliaid anwes domestig?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mike Hedges AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau Mike yn cynnwys chwaraeon, yr Urdd a chorau. Mae Mike yn gysylltiedig â Chyfeillion y Ddaear, Oxfam ac Amnest Rhyngwladol ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, tai, llywodraeth leol, darpariaeth chwaraeon ac amddifadedd cymdeithasol.

Hanes personol

Mae Mike wedi byw yn Nhreforys ers blynyddoedd, ond cafodd ei eni yn Mhlasmarl. Mae'n briod ag Anne ac mae ganddynt ferch, Catrin, sy'n mynd i Prifysgol Bangor. Aeth i ysgolion ym Mhlasmarl, Parklands a Phenlan ac yna i brifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Cefndir proffesiynol

Yn wreiddiol, gweithiodd Mike fel gwyddonydd ymchwil ar gyfer British Steel ym Mhort Talbot, ac fe dreuliodd 27 mlynedd fel darlithydd cyfrifiadureg ym Mhontypridd cyn dod yn Aelod Cynulliad.

Hanes gwleidyddol

Fe gynrychiolodd Mike ward Treforys ar Gyngor Abertawe rhwng 1989 a 2012 ac fe gafodd sawl swydd o fewn y cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor. Mae wedi bod yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol a gwybodaeth.

Mae'n diddori ym maes addysg, ac mae Mike wedi bod yn llywodraethwr Prifysgol Abertawe, Athrofa Abertawe, Ysgolion Cyfun Mynyddbach a Threforys a Choleg Abertawe, ac mae'n gadeirydd y llywodraethwyr ar gyfer ysgolion cynradd Glyncollen ac Ynystawe ar hyn o bryd.

Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ymddiriedolaeth GIG Abertawe rhwng 1999 a 2005.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mike Hedges AS