Roedd Mohammad Asghar (Oscar) yn Aelod o’r Senedd rhwng mis Mai 2016 a mis Mehefin 2020. Dyma ei fywgraffiad pan fu farw.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Oscar yn cymryd diddordeb a balchder mawr mewn hyrwyddo menter a busnes ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O ganlyniad, mae wrth ei fodd yn cael cymryd rhan yn y CPA (Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad), lle y mae wedi datblygu cysylltiadau cryf â gwledydd amrywiol ledled y Gymanwlad er mwyn cryfhau’r cysylltiadau rhyngwladol â Chymru.
Mae Oscar yn credu mewn integreiddiad ymhlith pob cymuned a ffydd. Bu’n gyfrwng i chwalu rhwystrau rhwng gwahanol gymunedau a ffydd.
Ymhlith ei ddiddordebau y tu allan i’r maes gwleidyddol mae criced, athletau a badminton. Mae ganddo hefyd drwydded peilot ac mae’n Gyfrifydd proffesiynol.
Hanes personol
Cafodd ei eni yn Peshawar ym Mhakistan, ac enillodd Oscar radd BA mewn Gwyddor Wleidyddol o Brifysgol Peshawar. Symudodd i Lundain a chwblhau MBA cyn symud i Gymru i ddilyn cwrs mewn cyfrifeg yng Nghasnewydd. Mae’n siarad Urdu, Hindi a Punjabi’n rhugl.
Mae’n briod â Firdaus, sy’n feddyg, a’r Faeres Fwslimaidd gyntaf yn y DU. Mae ganddynt ferch o’r enw Natasha.
Mae Oscar yn hoff iawn o chwaraeon, ac mae bob amser wedi annog pawb o bob oedran i gymryd rhan mewn chwaraeon. Fel un a redodd gyda’r ffagl Olympaidd ym 1964, mae wrth ei fodd pan fydd digwyddiadau chwaraeon yn uno’r wlad, drwy rygbi, pêl-droed, athletau a chriced, ac mae bob amser wedi ymgyrchu dros gael ei thîm criced ei hun i Gymru.
Cefndir proffesiynol
Dechreuodd Oscar ei yrfa yn gweithio i gwmni o gyfrifwyr siartredig yng Nghasnewydd. Wedyn, daeth yn bennaeth ei gwmni cyfrifwyr ei hun a chafodd amryw o swyddi Cyfarwyddwr mewn busnesau eraill cyn iddo fynd i faes gwleidyddiaeth.
Mae hefyd yn beilot cymwys.
Hanes gwleidyddol
Daeth Oscar yn gynghorydd Mwslimaidd cyntaf Cymru, yn cynrychioli ward Victoria ar Gyngor Dinas Casnewydd yn 2004. Daeth i amlygrwydd wedi iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007, ac eto yn 2011 a 2016. Mae’n adnabyddus fel yr Aelod Cynulliad Mwslimaidd cyntaf a’r cyntaf o blith y lleiafrifoedd ethnig ac mae’n hynod falch o’i gefndir a’i hanes.
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)