Roedd Nick Ramsay yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Hanes personol
Mae Nick, a aned yn 1975, yn dod yn wreiddiol o Gwmbrân. Ar wahân i wleidyddiaeth, mae Nick yn chwaraewr tennis brwd ac mae’n aelod o Glwb Tennis Cwmbrân. Mae hefyd yn dilyn rygbi yng Nghymru. Mae’n ymwneud â gwaith elusennol.
Cefndir proffesiynol
Aeth Nick i Ysgol Gyfun Croesyceiliog cyn mynd ymlaen i Goleg Sant Ioan ym Mhrifysgol Durham lle gafodd Radd Gydanrhydedd mewn Saesneg ac Athroniaeth. Yn ddiweddarach cafodd Ddiploma Ôl-radd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Caerdydd.
Mae Nick wedi gweithio’n flaenorol fel ymchwilydd i Nick Bourne, cyn- arweinydd plaid y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn hynny, bu’n gweithio i David Davies, cyn- Aelod Cynulliad Sir Fynwy.
Cefndir gwleidyddol
Cafodd Nick ei ethol yn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig dros Sir Fynwy ym mis Mai 2007 a bu’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus tan fis Hydref 2008 pan gafodd ei benodi’n Llefarydd yr Wrthblaid ar Gyllid. Roedd e’n penodwyd yn Weinidog Busnes, Menter a Thechnoleg yr Wrthblaid, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes 2011-2014.