Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae gan Rhianon
ddiddordeb penodol mewn addysg, llywodraeth leol, datblygu economaidd ac
adfywio. Yn eiriolwr brwdfrydig dros fenywod, mae Rhianon wedi cadeirio Fforwm Pwyllgorau
a Pholisi Menywod Llafur Cymru, ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth
Cymraes y Flwyddyn.
Mae Rhianon hefyd
yn eiriolwr angerddol dros gerddoriaeth a'r celfyddydau creadigol. Mae ganddi
ddiddordeb cryf mewn addysg cerddoriaeth a gwaith datblygu ym maes y
celfyddydau. Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Darlledu BBC Cymru ac ar gorff
gweithredol Cyngor Llyfrau Cenedlaethol Cymru.
Hanes personol
Cafodd Rhianon ei
geni a'i haddysgu yn Islwyn. Mae ei hymrwymiad hirsefydlog i brosiectau adfywio
cymunedol yn ne Cymru wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Joseph Rowntree.
Yn sgil ei
phrofiadau personol fel mam sydd â phedwar o blant ac sy'n gweithio, mae
Rhianon yn credu'n gryf mewn darparu gofal plant angenrheidiol, a hynny mewn
modd sy'n hygyrch i bawb.
Cefndir proffesiynol
Mae gan Rhianon
brofiad helaeth ar draws y sector addysg; mae'n arbenigwr ym maes cerddoriaeth
cyn ysgol, yn gerddor ac yn gyn-ddarlithydd. Mae'n gyn Aelod Cabinet dros
Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn gyn Gadeirydd Gwasanaeth
Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru ac yn gyn Is-gadeirydd Gwasanaethau Cymorth
Cynhwysiant Addysg De-ddwyrain Cymru (ESIS).
Mae gan Rhianon
gefndir cryf mewn llywodraeth leol, ac mae'n fentor llywodraeth leol achrededig
i gymheiriaid. Yn sgil ei hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, Rhianon
oedd cynrychiolydd Cymru ar Fwrdd Adfywio a Thrafnidiaeth y Gymdeithas
Llywodraeth Leol. Mae wedi gweithio fel uwch swyddog mewn undeb llafur, gan
gyflawni blaenoriaethau cydraddoldeb ar draws rhanbarth de-orllewin y Deyrnas
Unedig.
Hanes gwleidyddol
Mae Rhianon wedi
bod yn aelod selog o'r Blaid Lafur am flynyddoedd lawer, ac mae wedi
gwasanaethu ar Fforwm Polisi Cenedlaethol y blaid. Mae ganddi brofiad
gwleidyddol helaeth o ran datblygu polisi ar lefel leol a chenedlaethol. Mae'n
credu'n gryf mewn defnydd ymarferol o werthoedd Llafur o ran sicrhau cyfle
cyfartal i bawb, ac mae ganddi hanes hir o ymgyrchu yn erbyn sefydliadau asgell
dde eithafol.
Asedau’r Cyfryngau
Cofrestr
Buddiannau
Cofrestr
Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)