Pobl y Senedd

Aled Roberts

Aled Roberts

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Aled Roberts

Bywgraffiad

Roedd Aled Roberts yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2016. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.

Cefndir personol

Bu Aled Roberts yn ddisgybl yn Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon cyn mynd ymlaen i astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Priododd Llinos ym 1993, ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl ennill ei gymhwyster proffesiynol i fod yn gyfreithiwr, bu Aled yn arfer ei grefft yn Wrecsam, lle y daeth yn bartner, ond rhoddodd y gorau i’w waith fel cyfreithiwr pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005.

Mae’n gyn-gadeirydd Cynllun Craff am Wastraff, a bu hefyd yn aelod o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Cyn cael ei ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol, roedd Aled hefyd yn Gadeirydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru a bu’n gwasanaethu fel cynrychiolydd Cymru ar Weithgor Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol y DU.

Aled oedd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Dai rhwng 2005 a 2011, ac yn 2008, cafodd gyfrifoldeb ychwanegol pan gafodd y portffolio ei ymestyn i gynnwys yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Gwastraff.

Cefndir gwleidyddol

Mae Aled wedi chwarae rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth ers 1985, pan gynhaliwyd ymgyrch lwyddiannus i arbed Sefydliad y Glowyr yn y Rhos.

Bu Aled yn cynrychioli Ward Rhos a Ponciau ar Gyngor Wrecsam o 1991 nes iddo roi’r gorau iddi yn 2012. Roedd yn Faer Wrecsam yn ystod y cyfnod 2003-04 ac yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng mis Mawrth 2005 a mis Mai 2011.

Ym mis Tachwedd 2007, cafodd Aled ei enwi’n “Gynghorydd y Flwyddyn” yng ngwobrau Gwleidydd y Flwyddyn ITV Cymru.
Yn y Cynulliad, Aled yw Gweinidog Addysg yr Wrthblaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Llefarydd Plant a Phobl Ifanc a Llefarydd y Gymraeg. Mae hefyd yn eistedd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg. Aled hefyd yw ein llefarydd ar ran Pobl H
ŷn.

Bywgraffiad fideo

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Aled Roberts